Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôlLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae rhyddhad grŵp wedi ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys, yn achos trafodiad a ryddheir—

(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, neu

(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—

(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.

(3)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad grŵp pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth ag⁠—

(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad, a

(b)os rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw,

neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.

(4)Yn is-baragraffau (1) a (3), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni sy’n drosglwyddai neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw a’i gwmnïau cyswllt perthnasol yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.

(5)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn cysylltiad â’r prynwr, yw cwmni—

    (a)

    sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr yn union cyn i’r prynwr beidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr, a

    (b)

    sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;

  • mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 9 ac 10 (achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl) a pharagraff 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 16 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 16 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3