xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 18/10/2017

Valid from 01/04/2018

ATODLEN 16LL+CRHYDDHAD GRŴP

RHAN 5LL+CADENNILL RHYDDHAD GAN BERSONAU PENODOL

Adennill rhyddhad grŵp gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gan gyfarwyddwr â rheolaethLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo treth i’w chodi o dan baragraff (8) (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl),

(b)pan fo’r swm sydd i’w godi felly wedi ei bennu’n derfynol, ac

(c)pan na fo’r holl swm neu ran o’r swm sydd i’w godi felly wedi ei dalu 6 mis ar ôl y dyddiad y daeth yn daladwy.

(2)Gall fod yn ofynnol i’r personau a ganlyn, drwy hysbysiad o dan baragraff 14, dalu’r dreth nas talwyd (ynghyd ag unrhyw log sy’n daladwy)—

(a)y gwerthwr;

(b)unrhyw gwmni a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr ac a oedd uwchlaw iddo yn strwythur y grŵp;

(c)unrhyw berson a oedd, ar unrhyw adeg berthnasol, yn gyfarwyddwr â rheolaeth dros y prynwr neu’n gwmni â rheolaeth dros y prynwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b)—

(a)ystyr “adeg berthnasol” yw unrhyw adeg rhwng y dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith a phan fydd y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr;

(b)mae cwmni (“cwmni A”) “uwchlaw” cwmni arall (“cwmni B”) o fewn strwythur grŵp os yw cwmni B, neu gwmni arall sydd uwchlaw cwmni B yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i gwmni A.

(4)Yn is-baragraff (2)(c)—

(5)At ddibenion y paragraff hwn, nid yw hawliad wedi ei bennu’n derfynol hyd na ellir amrywio—

(a)yr hawliad, neu

(b)y swm y mae’n ymwneud ag ef,

mwyach (boed drwy adolygiad, drwy apêl neu fel arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 16 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)