ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP

RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL

Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol

12

(1)

Yn achos trafodiad a ryddheir—

(a)

pan fo rheolaeth dros y prynwr yn newid,

(b)

pan fo’r newid hwnnw yn digwydd—

(i)

cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)

yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,

(c)

pe na byddai rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir, oni bai am y paragraff hwn, yn cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8, a

(d)

pan fo unrhyw drafodiad blaenorol yn dod o fewn is-baragraff (3),

mae paragraffau 8, 9 ac 10 yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir fel pe bai’r gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf sydd o fewn is-baragraff (3) yn werthwr yn y trafodiad a ryddheir.

(2)

Mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).

(3)

Mae trafodiad blaenorol o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)

os yw’r trafodiad blaenorol yn drafodiad a ryddheir neu os yw wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael),

(b)

os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith lai na 3 blynedd cyn dyddiad y digwyddiad sydd o fewn is-baragraff (1)(a),

(c)

os yw’r buddiant trethadwy a gaffaelir o dan y trafodiad a ryddheir gan y prynwr yn y trafodiad hwnnw yr un fath â’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad blaenorol gan y prynwr yn y trafodiad blaenorol, neu’n ei ffurfio, yn ffurfio rhan ohono, neu’n deillio ohono, a

(d)

os nad yw, ers y trafodiad blaenorol, y buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad hwnnw wedi ei gaffael gan unrhyw berson mewn trafodiad nad yw’n drafodiad a ryddheir nac wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael).

(4)

At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros gwmni yn newid os yw—

(a)

unrhyw berson sydd â rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,

(b)

person yn cael rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu

(c)

y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.

(5)

Mae cyfeiriadau at “rheolaeth” yn y paragraff hwn i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(6)

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo—

(a)

rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a

(b)

y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.

(7)

Os dau drafodiad neu ragor y rhoddwyd effaith iddynt ar yr un pryd yw’r trafodiadau blaenorol cynharaf o fewn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at y gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf yn gyfeiriad at y personau sy’n werthwyr yn y trafodiadau blaenorol cynharaf.

(8)

Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.