ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP

RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o ganlyniad i drosglwyddiadau penodol busnes etc. gan gymdeithasau cydfuddiannol

11

(1)

Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8—

(a)

pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad,

(b)

pan fu trafodiad a ryddheir cyn dyddiad y trosglwyddiad perthnasol, ac

(c)

o ganlyniad i’r trosglwyddiad hwnnw, pan fo’r prynwr yn y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—

(i)

cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu

(ii)

yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)

Yn y paragraff hwn, ystyr “trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad” yw—

(a)

trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 10(1)(a) a (b) o Atodlen 22 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau adeiladu);

(b)

trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraffau 11(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cyfeillgar);

(c)

trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 12(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol neu undebau credyd).