ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP
RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL
Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl pan fo gwerthwr yn gadael grŵp
10
(1)
Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr am fod y gwerthwr yn gadael y grŵp.
(2)
Ystyrir bod y gwerthwr yn gadael y grŵp os yw’r cwmnïau yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp oherwydd trafodiad sy’n ymwneud â chyfranddaliadau—
(a)
yn y gwerthwr, neu
(b)
mewn cwmni arall—
(i)
sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, a
(ii)
sydd, o ganlyniad i’r trafodiad, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr.
(3)
At ddiben is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.
(4)
Ond os yw rheolaeth dros y prynwr yn newid ar ôl i’r gwerthwr adael y grŵp, mae paragraffau 8, 9(4) a (6), 13 a 14 yn cael effaith fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (ond gweler is-baragraff (7)).
(5)
At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros y prynwr yn newid os yw—
(a)
person sydd â rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,
(b)
person yn cael rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu
(c)
y prynwr yn cael ei ddirwyn i ben.
(6)
At ddibenion is-baragraff (5), nid oes gan berson (“P”) reolaeth dros y prynwr, ac nid yw’n cael rheolaeth dros y prynwr, os oes gan berson arall neu bersonau eraill reolaeth dros P.
(7)
Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys pan fo—
(a)
rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a
(b)
y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.
(8)
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at “rheolaeth” i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (yn ddarostyngedig i is-baragraff (6)).