xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 15LL+CRHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

RHAN 4LL+CYMDDIRIEDOLAETHAU RHANBERCHNOGAETH

Ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: ystyr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a thermau allweddol eraillLL+C

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i baragraffau 11 i 17.

(2)Ystyr “ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw ymddiriedolaeth tir o fewn yr ystyr a roddir i “trust of land” gan adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.

(3)Amod 1 yw bod eiddo’r ymddiriedolaeth—

(a)yn annedd, a

(b)yng Nghymru.

(4)Amod 2 yw bod un o’r buddiolwyr (“y landlord cymdeithasol”) yn gorff cymwys.

(5)Amod 3 yw bod telerau’r ymddiriedolaeth—

(a)yn darparu y caiff un neu ragor o’r buddiolwyr unigol (“y prynwr”), a neb arall, ddefnyddio eiddo’r ymddiriedolaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliad cychwynnol i’r landlord cymdeithasol (“y cyfalaf cychwynnol”),

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliadau ychwanegol i’r landlord cymdeithasol ar ffurf taliadau digolledu o dan adran 13(6)(a) o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (“y taliadau cyfwerth â rhent”),

(d)yn galluogi’r prynwr i wneud taliadau ychwanegol eraill i’r landlord cymdeithasol (“taliadau caffael ecwiti”),

(e)yn pennu buddiannau llesiannol cychwynnol y landlord cymdeithasol a’r prynwr y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar eu sail,

(f)yn pennu swm, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr annedd, y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar ei sail, ac

(g)yn darparu y bydd buddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cynyddu, a buddiant llesiannol y landlord cymdeithasol yn lleihau neu’n cael ei ddiddymu, wrth i daliadau caffael ecwiti gael eu gwneud.

(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.

(7)Yn Amod 1, mae “annedd” yn cynnwys tir sydd i’w ddefnyddio i adeiladu annedd.

(8)Yn Amod 2, ystyr “corff cymwys” yw—

(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 15 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 15 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y prynwrLL+C

11At ddibenion y Ddeddf hon, y person neu’r personau a ddynodir fel y prynwr yn unol â pharagraff 10, ac nid y landlord cymdeithasol nac unrhyw fuddiolwr arall, sydd i’w drin (neu i’w trin) fel prynwyr eiddo’r ymddiriedolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 15 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 15 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadolLL+C

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a

(b)pan fo’r prynwr yn gwneud dewis o dan y paragraff hwn.

(2)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—

(a)rhaid i hynny gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a

(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw’r swm a nodir yn unol â pharagraff 10(5)(f), a

(b)rhaid diystyru’r taliadau cyfwerth â rhent.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 15 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 15 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo buddiant pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i benLL+C

13Mae trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 12, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 15 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 15 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaethLL+C

14(1)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, i’w ryddhau rhag treth—

(a)os gwnaed dewis am ryddhad o dan baragraff 12, a

(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth.

(2)Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, hefyd i’w ryddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 15 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 15 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trin taliadau ychwanegol pan na wneir dewisLL+C

15Pan na wnaed dewis o dan baragraff 12 mewn cysylltiad ag ymddiriedolaeth ranberchnogaeth—

(a)mae’r cyfalaf cychwynnol i’w drin fel cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a

(b)mae unrhyw daliad cyfwerth â rhent gan y prynwr i’w drin fel taliad rhent.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 15 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 15 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: datganiad a chynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiolLL+C

16At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—

(a)unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na

(b)trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 15 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 15 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y swm y codir treth arnoLL+C

17(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ystyr “cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant pan fo, oddi tano—

(a)corff cymwys yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu bersonau (“y tenantiaid”), a

(b)y tenant, neu un neu ragor o’r tenantiaid, yn dod wedi hynny yn brynwr yr annedd, neu annedd arall, o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth y mae’r corff cymwys yn landlord cymdeithasol oddi tani.

(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—

(a)rhoi’r contract meddiannaeth,

(b)datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, ac

(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.

(4)Yn y paragraff hwn mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 15 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 15 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3