ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 4YMDDIRIEDOLAETHAU RHANBERCHNOGAETH
10Ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: ystyr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a thermau allweddol eraill
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i baragraffau 11 i 17.
2
Ystyr “ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw ymddiriedolaeth tir o fewn yr ystyr a roddir i “trust of land” gan adran 1 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn.
3
Amod 1 yw bod eiddo’r ymddiriedolaeth—
a
yn annedd, a
b
yng Nghymru.
4
Amod 2 yw bod un o’r buddiolwyr (“y landlord cymdeithasol”) yn gorff cymwys.
5
Amod 3 yw bod telerau’r ymddiriedolaeth—
a
yn darparu y caiff un neu ragor o’r buddiolwyr unigol (“y prynwr”), a neb arall, ddefnyddio eiddo’r ymddiriedolaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr,
b
yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliad cychwynnol i’r landlord cymdeithasol (“y cyfalaf cychwynnol”),
c
yn ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr wneud taliadau ychwanegol i’r landlord cymdeithasol ar ffurf taliadau digolledu o dan adran 13(6)(a) o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (“y taliadau cyfwerth â rhent”),
d
yn galluogi’r prynwr i wneud taliadau ychwanegol eraill i’r landlord cymdeithasol (“taliadau caffael ecwiti”),
e
yn pennu buddiannau llesiannol cychwynnol y landlord cymdeithasol a’r prynwr y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar eu sail,
f
yn pennu swm, sy’n gyfwerth neu’n gysylltiedig â gwerth marchnadol yr annedd, y cyfrifwyd y cyfalaf cychwynnol ar ei sail, ac
g
yn darparu y bydd buddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth yn cynyddu, a buddiant llesiannol y landlord cymdeithasol yn lleihau neu’n cael ei ddiddymu, wrth i daliadau caffael ecwiti gael eu gwneud.
6
Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.
7
Yn Amod 1, mae “annedd” yn cynnwys tir sydd i’w ddefnyddio i adeiladu annedd.
8
Yn Amod 2, ystyr “corff cymwys” yw—
a
awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
b
cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);
c
ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
11Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y prynwr
At ddibenion y Ddeddf hon, y person neu’r personau a ddynodir fel y prynwr yn unol â pharagraff 10, ac nid y landlord cymdeithasol nac unrhyw fuddiolwr arall, sydd i’w drin (neu i’w trin) fel prynwyr eiddo’r ymddiriedolaeth.
12Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a
b
pan fo’r prynwr yn gwneud dewis o dan y paragraff hwn.
2
O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
a
rhaid i hynny gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
b
mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
3
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
a
cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw’r swm a nodir yn unol â pharagraff 10(5)(f), a
b
rhaid diystyru’r taliadau cyfwerth â rhent.
13Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo buddiant pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben
Mae trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan fo’r ymddiriedolaeth yn dod i ben wedi ei ryddhau rhag treth—
a
os gwnaed dewis o dan baragraff 12, a
b
os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth.
14Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth
1
Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, i’w ryddhau rhag treth—
a
os gwnaed dewis am ryddhad o dan baragraff 12, a
b
os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â datgan yr ymddiriedolaeth.
2
Mae taliad caffael ecwiti o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a’r cynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr o ganlyniad i hynny, hefyd i’w ryddhau rhag treth os nad yw buddiant llesiannol y prynwr, yn dilyn y cynnydd, yn fwy nag 80% o gyfanswm y buddiant llesiannol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.
15Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trin taliadau ychwanegol pan na wneir dewis
Pan na wnaed dewis o dan baragraff 12 mewn cysylltiad ag ymddiriedolaeth ranberchnogaeth—
a
mae’r cyfalaf cychwynnol i’w drin fel cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a
b
mae unrhyw daliad cyfwerth â rhent gan y prynwr i’w drin fel taliad rhent.
16Ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: datganiad a chynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol
At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, mae’r datganiad i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—
a
unrhyw daliad caffael ecwiti o dan yr ymddiriedolaeth nac unrhyw gynnydd ym muddiant llesiannol y prynwr yn eiddo’r ymddiriedolaeth o ganlyniad i hynny, na
b
trosglwyddo buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth i’r prynwr pan ddaw’r ymddiriedolaeth i ben.
17Rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: y swm y codir treth arno
1
Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.
2
Ystyr “cynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant pan fo, oddi tano—
a
corff cymwys yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu bersonau (“y tenantiaid”), a
b
y tenant, neu un neu ragor o’r tenantiaid, yn dod wedi hynny yn brynwr yr annedd, neu annedd arall, o dan ymddiriedolaeth ranberchnogaeth y mae’r corff cymwys yn landlord cymdeithasol oddi tani.
3
Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—
a
rhoi’r contract meddiannaeth,
b
datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, ac
c
unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.
4
Yn y paragraff hwn mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).