3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)les yn cael ei rhoi—
(i)gan gorff cymwysF1...
F1(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;
(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—
(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.
(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 15 para. 3(1)(a)(ii) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(c) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 15 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 15 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
4Mae trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau les y mae paragraff 3 yn gymwys iddi (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3, a
(b)os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 15 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 15 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)les yn cael ei rhoi—
(i)gan gorff cymwysF2...
F2(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;
(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu
(ii)swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;
(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—
(i)y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu
(ii)y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 15 para. 5(1)(a)(ii) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(d) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 15 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 15 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—
(a)y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a
(b)y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).
(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu
(b)os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.
(3)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 15 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I8Atod. 15 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
7At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi wrth roi les ranberchnogaeth ar gyfer annedd, mae rhoi’r les i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—
(a)unrhyw gaffaeliad buddiant yn yr annedd y mae paragraff 6 yn gymwys iddo, na
(b)trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau’r les.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 15 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I10Atod. 15 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
8(1)Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i les ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Ystyr “cynllun rhent i les ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant y mae corff cymwys, oddi tano—
(a)yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu i bersonau (“y tenantiaid”), a
(b)yn rhoi, wedi hynny, les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd neu annedd arall i’r tenant neu i un neu ragor o’r tenantiaid.
(3)Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—
(a)rhoi’r contract meddiannaeth;
(b)rhoi’r les ranberchnogaeth;
(c)unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.
(4)At ddibenion pennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith, mae’r ffaith fod y tenant neu’r tenantiaid yn meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth i’w diystyru.
(5)Yn y paragraff hwn, mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 15 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I12Atod. 15 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
9(1)At ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, ystyr “les ranberchnogaeth” yw les a roddir—
(a)gan gorff cymwysF3...
F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
y bodlonir yr amodau ym mharagraff 3(2) neu 5(2) mewn perthynas â hi.
(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i baragraffau 3 i 8.
(3)Ystyr “corff cymwys” yw—
(a)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
(b)cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);
(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
F4(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F5(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 15 para. 9(1)(b) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(e)(i) (ynghyd â rhl. 5)
F4Atod. 15 para. 9(4) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(e)(ii) (ynghyd â rhl. 5)
F5Atod. 15 para. 9(5) wedi ei hepgor (26.1.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(e)(iii) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 15 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I14Atod. 15 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3