ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 1RHAGARWEINIAD
I1I21Trosolwg
1
Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol.
2
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer F1trafodiadau sy’n destun disgownt sector cyhoeddus,
b
mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ymrwymir i les ranberchnogaeth neu drafodiad rhent i les ranberchnogaeth,
c
mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dreth sydd i’w chodi a’r rhyddhad sydd ar gael pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth a phan ymrwymir i gynllun rhent i ymddiriedolaeth ranberchnogaeth,
F2d
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
e
mae Rhan 6 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.