ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 3LESOEDD RHANBERCHNOGAETH
Les ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth
6
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—
(a)
y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a
(b)
y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).
(2)
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)
os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu
(b)
os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.
(3)
Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.