ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 3LESOEDD RHANBERCHNOGAETH
Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaeth
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)
les yn cael ei rhoi—
(i)
gan gorff cymwysF1...
F1(ii)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)
yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)
y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)
bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)
bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;
(d)
bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)
y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu
(ii)
swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;
(e)
bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—
(i)
y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu
(ii)
y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)
O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
(a)
rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)
mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)
Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)
Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.