Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)les yn cael ei rhoi—
(i)gan gorff cymwys, neu
(ii)yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,
(b)yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Yr amodau yw—
(a)bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;
(d)bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
(e)bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—
(i)gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.
(6)Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.