ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 3LESOEDD RHANBERCHNOGAETH
Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
(a)
les yn cael ei rhoi—
(i)
gan gorff cymwysF1...
F1(ii)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)
yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
(c)
y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
(b)
bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
(c)
bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;
(d)
bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
(i)
gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)
swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
(e)
bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—
(i)
gwerth marchnadol yr annedd, neu
(ii)
y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
(3)
O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—
(a)
rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)
mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(4)
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
(5)
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.
(6)
Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.