ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL

RHAN 2RHYDDHAD HAWL I BRYNU

F1Rhyddhad ar gyfer trafodiadau disgownt sector cyhoeddus

2

(1)

Yn achos F2trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus

(a)

nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a

(b)

nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(2)

Ystyr “F3trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus” yw—

(a)

gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasolF4...

F4

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)

Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—

(a)

un neu ragor o Weinidogion y Goron;

(b)

Gweinidogion Cymru;

(c)

awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);

(d)

landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)

ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);

(f)

corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);

(g)

person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

F5(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F6(5)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(6)

Yn y paragraff hwn—

ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

F7...