ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 2RHYDDHAD HAWL I BRYNU
Rhyddhad ar gyfer trafodiad hawl i brynu
2
(1)
Yn achos trafodiad hawl i brynu—
(a)
nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a
(b)
nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.
(2)
Ystyr “trafodiad hawl i brynu” yw—
(a)
gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasol, neu
(b)
gwerthu annedd, neu roi les ar gyfer annedd, yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd.
(3)
Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—
(a)
un neu ragor o Weinidogion y Goron;
(b)
Gweinidogion Cymru;
(c)
awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
(d)
landlord cymdeithasol cofrestredig;
(e)
ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);
(f)
corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);
(g)
person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)
At ddibenion is-baragraff (2)(b), mae gwerthu annedd, neu roi les ar gyfer annedd, yn cael ei wneud yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd—
(a)
os yw’r gwerthwr yn berson y mae’r hawl i brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) yn arferadwy yn ei erbyn yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno,
(b)
os y prynwr yw’r person cymwys at ddibenion yr hawl i brynu a gadwyd, ac
(c)
os yr annedd yw’r tŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r prynwr.
(5)
Nid yw grant gan Weinidogion Cymru o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau prynu mewn cysylltiad â gwarediadau am ddisgownt gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) yn cyfrif fel rhan o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad hawl i brynu y mae’r gwerthwr yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat mewn perthynas ag ef.
(6)
Yn y paragraff hwn—
ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
mae i “tŷ annedd cymwys” a “person cymwys” yr ystyron a roddir i “qualifying dwelling-house” a “qualifying person” gan adran 171B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).