xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan ddatgenir ymddiriedolaeth ranberchnogaeth, a
(b)pan fo’r prynwr yn gwneud dewis o dan y paragraff hwn.
(2)O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
(a)rhaid i hynny gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
(b)mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer datgan yr ymddiriedolaeth ranberchnogaeth yw’r swm a nodir yn unol â pharagraff 10(5)(f), a
(b)rhaid diystyru’r taliadau cyfwerth â rhent.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 15 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 15 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3