xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo person neu bersonau a enwebir neu a benodir gan denantiaid cymwys fflatiau a gynhwysir mewn mangre yn ymrwymo i drafodiad trethadwy drwy arfer—
(a)hawl o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) (hawl i gael y cynnig cyntaf), neu
(b)hawl o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (hawl i ryddfreiniad ar y cyd).
(2)Pennir swm y dreth sydd i’w godi fel a ganlyn.
Cam 1
Pennu’r ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gynhyrchir drwy rannu cyfanswm y gydnabyddiaeth honno â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.
Cam 2
Pennu swm y dreth sydd i’w godi o dan adran 27 fel pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad trethadwy y ffracsiwn o’r gydnabyddiaeth drethadwy a gyfrifwyd o dan Gam 1.
Cam 3
Lluosi’r swm a bennwyd yng Ngham 2 â nifer y fflatiau cymwys sydd yn y fangre.
(3)Yn y paragraff hwn—
(a)mae i “fflat” a “tenant cymwys” yr un ystyron â “flat” a “qualifying tenant” yn y Bennod neu’r Rhan o’r Ddeddf sy’n rhoi’r hawl sy’n cael ei harfer;
(b)ystyr “fflat gymwys” yw fflat a ddelir gan denant cymwys sy’n cyfranogi o ran arfer yr hawl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 14 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3