xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 18/10/2017

Valid from 01/04/2018

ATODLEN 14LL+CRHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

RHAN 2LL+CRHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU

Rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael gan gynrychiolwyr personolLL+C

5(1)Pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol unigolyn ymadawedig, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau a ganlyn (ond gweler is-baragraff (3) am ddarpariaeth ynghylch rhyddhad rhannol).

(2)Yr amodau yw—

(a)y gwneir y caffaeliad yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan gynrychiolwyr personol unigolion ymadawedig, neu’n ymwneud â hynny,

(b)bod yr unigolyn ymadawedig wedi meddiannu’r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y bu farw’r unigolyn,

(c)nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu—

(i)gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd,

(ii)rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na

(iii)caniatáu i unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion (neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’i brif arferyddion neu ei gyflogeion) feddiannu’r annedd, a

(d)nad yw arwynebedd y tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir.

(3)Pan fodlonir yr amodau yn is-baragraff (2)(a) i (c) ond bod arwynebedd y tir a gaffaelir yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw’r swm a gyfrifir drwy ddidynnu gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir o werth marchnadol yr annedd.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael yr annedd yn gyfeiriadau at gaffael, drwy drosglwyddo, brif fuddiant yn yr annedd, a

(b)mae cyfeiriadau at werth marchnadol yr annedd a’r arwynebedd a ganiateir yn gyfeiriadau at werth marchnadol y prif fuddiant hwnnw yn yr annedd a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 14 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)