Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Trosolwg

This section has no associated Explanatory Notes

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan adeiladwyr tai, masnachwyr eiddo a chyflogwyr, ac mae wedi ei threfnu fel a ganlyn⁠—

(i)mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,

(ii)mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,

(iii)mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri,

(iv)mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol,

(v)mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,

(vi)mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo cyflogwr yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,

(vii)mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu’n ôl y rhyddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo, ac

(viii)mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli geiriau ac ymadroddion sy’n gymwys i Ran 2 o’r Atodlen hon;

(b)mae Rhan 3 yn darparu rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan berson neu bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd.