ATODLEN 14RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU PENODOL O ANHEDDAU
RHAN 1RHAGARWEINIAD
1Trosolwg
1
Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau.
2
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae Rhan 2 yn darparu rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan adeiladwyr tai, masnachwyr eiddo a chyflogwyr, ac mae wedi ei threfnu fel a ganlyn—
i
mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo adeiladwr tai yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,
ii
mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd,
iii
mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan unigolyn pan fo cadwyn o drafodiadau yn torri,
iv
mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd gan gynrychiolwyr personol,
v
mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo masnachwr eiddo yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,
vi
mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhyddhad pan fo cyflogwr yn caffael annedd mewn achos o adleoli cyflogaeth,
vii
mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu’n ôl y rhyddhadau sydd ar gael i fasnachwyr eiddo, ac
viii
mae paragraff 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli geiriau ac ymadroddion sy’n gymwys i Ran 2 o’r Atodlen hon;
b
mae Rhan 3 yn darparu rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan berson neu bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd.