xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 13LL+CRHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG

TrosolwgLL+C

1Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhad sydd ar gael ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 13 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 13 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

2Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 3 yn dynodi’r trafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt,

(b)mae paragraff 4 yn diffinio termau allweddol,

(c)mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer swm y dreth sydd i’w godi,

(d)mae paragraffau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch sut y cyfrifir y dreth, ac

(e)mae paragraff 8 yn darparu ar gyfer trin adeiladau penodol sydd eto i’w hadeiladu neu i’w haddasu fel anheddau at ddibenion yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 13 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 13 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddyntLL+C

3(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i drafodiad perthnasol.

(2)Ystyr “trafodiad perthnasol” yw trafodiad trethadwy—

(a)sydd o fewn is-baragraff (3) neu (4), a

(b)nad yw wedi ei eithrio gan is-baragraff (5).

(3)Mae trafodiad o fewn yr is-baragraff hwn os ei brif destun yw—

(a)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd, neu

(b)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.

(4)Mae trafodiad o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os ei brif destun yw—

(i)buddiant mewn annedd, neu

(ii)buddiant mewn annedd ac eiddo arall,

(b)os yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, ac

(c)os prif destun o leiaf un o’r trafodiadau cysylltiol eraill yw—

(i)buddiant mewn rhyw annedd arall neu ryw anheddau eraill, neu

(ii)buddiant mewn rhyw annedd arall neu ryw anheddau eraill ac eiddo arall.

(5)Mae trafodiad wedi ei eithrio gan yr is-baragraff hwn—

(a)os yw paragraff 10 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd) o Atodlen 14 yn gymwys iddo, neu

(b)os yw rhyddhad o dan Atodlen 16 (rhyddhad grŵp), Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael) neu Atodlen 18 (rhyddhad elusennau) ar gael ar ei gyfer (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl).

(6)Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at fuddiant mewn annedd yn gyfeiriad at unrhyw fuddiant trethadwy mewn annedd neu dros annedd.

(7)Ond, yn achos annedd sy’n ddarostyngedig i les a roddir am dymor cychwynnol o fwy na 21 o flynyddoedd, nid yw unrhyw fuddiant sy’n uwchfuddiant mewn perthynas â’r les i’w drin fel buddiant mewn annedd at ddibenion paragraffau 4 a 5.

(8)Nid yw is-baragraff (7) yn gymwys—

(a)pan fo’r gwerthwr yn gorff cymwys o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 9(3) o Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol gan denantiaid),

(b)pan fo’r trafodiad yn werthiant o dan drefniant gwerthu ac adlesu o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 9 (trefniadau gwerthu ac adlesu),

(c)os rhoi buddiant lesddaliad yw’r gwerthiant hwnnw, a

(d)pan fo’r elfen adlesu o’r trefniant hwnnw wedi ei rhyddhau rhag treth o dan Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 13 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 13 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Termau allweddolLL+C

4(1)Ystyr “y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau”—

(a)ar gyfer trafodiad annedd unigol, yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli i’r annedd;

(b)ar gyfer trafodiad anheddau lluosog, yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli i’r anheddau gyda’i gilydd.

(2)Ystyr “y gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad llai’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

(3)Mae trafodiad perthnasol yn “trafodiad annedd unigol” os ei brif destun yw—

(a)buddiant mewn annedd, neu

(b)buddiant mewn annedd ac eiddo arall.

(4)Mae trafodiad perthnasol yn “trafodiad anheddau lluosog” os ei brif destun yw—

(a)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd, neu

(b)buddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.

(5)Ystyr “priodoli” yw priodoli ar sail dosraniad teg a rhesymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 13 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 13 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Swm y dreth sydd i’w godiLL+C

5(1)Os hawlir rhyddhad o dan yr Atodlen hon am drafodiad perthnasol, y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad yw swm—

(a)y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau, a

(b)y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill (os o gwbl).

(2)Os rhent yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad perthnasol, neu ran ohoni, mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i Ran 5 o Atodlen 6 (lesoedd: cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 13 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 13 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddauLL+C

6(1)At ddibenion paragraff 5(1)(a), pennir “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau” fel a ganlyn—

(2)Ond os yw’r swm a geir yng Ngham 2 o is-baragraff (1) yn llai nag 1% o gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau, at ddibenion paragraff 5(1)(a) “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau” yw swm sy’n gyfwerth ag 1% o’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

(3)Ystyr “cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau” yw—

(a)ar gyfer trafodiad nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw;

(b)ar gyfer un o nifer o drafodiadau cysylltiol—

(i)cyfanswm y gydnabyddiaeth sydd i’w briodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw a’r holl drafodiadau cysylltiol eraill sy’n drafodiadau perthnasol, plws

(ii)hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau cysylltiol (boed hwy’n drafodiadau perthnasol ai peidio) nad yw wedi ei gynnwys yn y cyfrifiad o dan baragraff (i) ond sydd i’w briodoli i’r un anheddau y cyfeirir atynt wrth wneud y cyfrifiad hwnnw.

(4)Ystyr “cyfanswm yr anheddau” yw cyfanswm yr anheddau y cyfeirir atynt wrth gyfrifo cydnabyddiaeth cyfanswm yr anheddau.

(5)Wrth gymhwyso is-baragraff (1), rhaid diystyru—

(a)adran 72(9) (trin trosglwyddo 6 annedd unigol neu ragor fel eiddo amhreswyl), a

(b)paragraff 34 (treth sydd i’w chodi am gydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysg) o Atodlen 6 (lesoedd).

(6)Wrth gymhwyso is-baragraff (1), pan fo trafodiad perthnasol yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch (fel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 5), mae swm y dreth a fyddai i’w godi o dan adran 27 i’w bennu ar y sail honno.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau er mwyn rhoi canrannau gwahanol yn lle’r canrannau a bennir yno am y tro.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 13 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 13 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddillLL+C

7(1)At ddibenion paragraff 5(1)(b), “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw’r ffracsiwn priodol o swm y dreth a fyddai’n ddyledus (oni bai am yr Atodlen hon) mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “y ffracsiwn priodol” yw—

Ffigwr 13

pan fo—

  • “CSW” y gydnabyddiaeth sy’n weddill ar gyfer y trafodiad perthnasol,

  • “CCA” yn gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau, a

  • “CCSW” yn gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill.

(3)Ystyr “cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw—

(a)ar gyfer trafodiad nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sy’n weddill ar gyfer y trafodiad hwnnw;

(b)ar gyfer un o nifer o drafodiadau cysylltiol—

(i)cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr holl drafodiadau hynny, llai

(ii)cydnabyddiaeth cyfanswm yr anheddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 13 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 13 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Adeiladau penodol sydd eto i’w hadeiladu neu i’w haddasu i gyfrif fel anneddLL+C

8(1)At ddibenion yr Atodlen hon, cymerir mai prif destun y trafodiad yw buddiant mewn annedd neu ei fod yn cynnwys buddiant mewn annedd—

(a)os dyddiad cyflawni contract yn sylweddol yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yn rhinwedd darpariaeth dybio berthnasol,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn ffurfio neu’n cynnwys buddiant mewn adeilad, neu ran o adeilad, sydd i’w adeiladu neu i’w addasu o dan y contract i’w ddefnyddio fel annedd, ac

(c)os nad yw’r gwaith o adeiladu neu addasu’r adeilad, neu’r rhan o adeilad, wedi dechrau erbyn i’r contract gael ei gyflawni’n sylweddol.

(2)Yn is-baragraff (1)—

(3)Mae is-adrannau (4) i (7) o adran 72 (ystyr eiddo preswyl) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn fel y maent yn gymwys at ddibenion is-adran (1)(a) o’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 13 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 13 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3