xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 13LL+CRHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG

Amgylchiadau pan na fo is-anheddau yn cyfrif fel anheddau ar wahânLL+C

[F17A.(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—

(a)pan fo—

(i)y prynwr yn unigolyn, a

(ii)prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn dwy annedd neu ragor (“yr anheddau a brynir”),

(b)pan fo un yn unig o’r anheddau a brynir yn annedd gymwys, ac

(c)nad yw paragraff 15 o Atodlen 5 yn gymwys iddo.

(2)Ond nid yw is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy—

(a)sydd o fewn is-baragraff (1), a

(b)y mae paragraff 18 o Atodlen 5 yn gymwys iddo (rhyng-drafodiad sy’n cael ei drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch).

(3)At ddibenion yr Atodlen hon, mae’r buddiannau yn yr annedd gymwys a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) ac annedd a brynir (neu fwy nag un annedd a brynir) sy’n is-annedd iddi i’w trin fel pe baent yn fuddiant mewn annedd unigol.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae annedd a brynir (“annedd A”) yn is-annedd i annedd gymwys (“annedd B”) pe bai annedd A yn is-annedd i annedd B at ddibenion Atodlen 5 (gweler paragraff 14 o’r Atodlen honno).

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “annedd gymwys” yw annedd sy’n annedd gymwys at ddibenion Rhan 3 o Atodlen 5 (gweler paragraff 13 o’r Atodlen honno).]