xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 13LL+CRHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG

Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddauLL+C

6(1)At ddibenion paragraff 5(1)(a), pennir “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau” fel a ganlyn—

(2)Ond os yw’r swm a geir yng Ngham 2 o is-baragraff (1) yn llai nag 1% o gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau, at ddibenion paragraff 5(1)(a) “y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau” yw swm sy’n gyfwerth ag 1% o’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

(3)Ystyr “cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau” yw—

(a)ar gyfer trafodiad nad yw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw;

(b)ar gyfer un o nifer o drafodiadau cysylltiol—

(i)cyfanswm y gydnabyddiaeth sydd i’w briodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw a’r holl drafodiadau cysylltiol eraill sy’n drafodiadau perthnasol, plws

(ii)hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau cysylltiol (boed hwy’n drafodiadau perthnasol ai peidio) nad yw wedi ei gynnwys yn y cyfrifiad o dan baragraff (i) ond sydd i’w briodoli i’r un anheddau y cyfeirir atynt wrth wneud y cyfrifiad hwnnw.

(4)Ystyr “cyfanswm yr anheddau” yw cyfanswm yr anheddau y cyfeirir atynt wrth gyfrifo cydnabyddiaeth cyfanswm yr anheddau.

(5)Wrth gymhwyso is-baragraff (1), rhaid diystyru—

(a)adran 72(9) (trin trosglwyddo 6 annedd unigol neu ragor fel eiddo amhreswyl), a

(b)paragraff 34 (treth sydd i’w chodi am gydnabyddiaeth ar wahân i rent: lesoedd cymysg) o Atodlen 6 (lesoedd).

(6)Wrth gymhwyso is-baragraff (1), pan fo trafodiad perthnasol yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch (fel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 5), mae swm y dreth a fyddai i’w godi o dan adran 27 i’w bennu ar y sail honno.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau er mwyn rhoi canrannau gwahanol yn lle’r canrannau a bennir yno am y tro.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 13 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 13 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3