ATODLEN 13RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG

Swm y dreth sydd i’w godi

5

(1)

Os hawlir rhyddhad o dan yr Atodlen hon am drafodiad perthnasol, y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad yw swm—

(a)

y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau, a

(b)

y dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sy’n weddill (os o gwbl).

(2)

Os rhent yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad perthnasol, neu ran ohoni, mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i Ran 5 o Atodlen 6 (lesoedd: cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi).