ATODLEN 13RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG
I1I22Trosolwg
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae paragraff 3 yn dynodi’r trafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt,
b
mae paragraff 4 yn diffinio termau allweddol,
c
mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer swm y dreth sydd i’w godi,
d
mae paragraffau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch sut y cyfrifir y dreth, ac
e
mae paragraff 8 yn darparu ar gyfer trin adeiladau penodol sydd eto i’w hadeiladu neu i’w haddasu fel anheddau at ddibenion yr Atodlen hon.