xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5(1)Yn yr Atodlen hon—
ystyr “yr adeg berthnasol” (“the relevant time”) yw—
pan fu i’r trosglwyddwr gaffael y buddiant trethadwy ar ôl ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn union ar ôl i’r trosglwyddwr ei gaffael, a
mewn unrhyw achos arall, yn union cyn ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
ystyr “partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig” (“limited liability partnership”) yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p.12).
(2)Ym mharagraff 4(b) mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3