ATODLEN 12RHYDDHAD AR GYFER YMGORFFORI PARTNERIAETH ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG
I1I61Y rhyddhad
Mae trafodiad pan fo person (“y trosglwyddwr”) yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mewn cysylltiad â’i ymgorffori wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir amodau A i C.
I2I72Amod A
Amod A yw nad yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fwy na blwyddyn ar ôl dyddiad ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
I3I83Amod B
Amod B yw bod y trosglwyddwr, ar yr adeg berthnasol—
a
yn bartner mewn partneriaeth sy’n cynnwys yr holl bersonau sy’n aelodau o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu a fydd yn aelodau ohoni (a neb arall), neu
b
yn dal y buddiant trethadwy fel enwebai neu ymddiriedolwr noeth i un partner neu ragor mewn partneriaeth o’r fath.
I4I94Amod C
Amod C yw—
a
bod y cyfrannau o’r buddiant trethadwy y mae gan y personau a grybwyllir ym mharagraff 3(a) yr hawl iddynt yn union ar ôl y trosglwyddiad yr un fath â’r rheini yr oedd ganddynt hawl iddynt ar yr adeg berthnasol, neu
b
nad yw yr un o’r gwahaniaethau yn y cyfrannau hynny wedi codi fel rhan o drefniadau y mae osgoi atebolrwydd i dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion.
I5I105Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “yr adeg berthnasol” (“the relevant time”) yw—
- a
pan fu i’r trosglwyddwr gaffael y buddiant trethadwy ar ôl ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, yn union ar ôl i’r trosglwyddwr ei gaffael, a
- b
mewn unrhyw achos arall, yn union cyn ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
- a
ystyr “partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig” (“limited liability partnership”) yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p.12).
2
Ym mharagraff 4(b) mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.