ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 3AMODAU AR GYFER GWEITHREDU RHYDDHADAU ETC.
Amod 1
6
Amod 1 yw bod un person (“A”) a pherson arall (“B”) yn ymrwymo i drefniadau—
(a)
y mae A yn trosglwyddo buddiant cymwys mewn tir i B (“y trafodiad cyntaf”) oddi tanynt, a
(b)
y mae A ac B yn cytuno oddi tanynt, pan fo B yn peidio â dal y buddiant fel y crybwyllir ym mharagraff 7(b), y bydd B yn trosglwyddo’r buddiant i A.