ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 2NID YW DYRODDI, TROSGLWYDDO NAC ADBRYNU HAWLIAU O DAN FOND I’W TRIN FEL TRAFODIADAU TRETHADWY

Deiliad bond ddim i’w drin fel pe bai ganddo fuddiant yn asedau’r bond

3

At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)

nid yw’r deiliad bond o dan fond buddsoddi cyllid arall i’w drin fel bod ganddo fuddiant yn asedau’r bond;

(b)

nid yw’r dyroddwr bond o dan fond o’r fath i’w drin fel ymddiriedolwr asedau’r bond.