ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Dehongli

2

Yn yr Atodlen hon—

mae i “asedau bond”, “deiliad bond”, “dyroddwr bond” a “cyfalaf” yr ystyron a roddir i “bond assets”, “bond-holder”, “bond-issuer” a “capital” yn adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3);

ystyr “bond buddsoddi cyllid arall” (“alternative finance investment bond”) yw trefniadau y mae adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau o ran bondiau buddsoddi) yn gymwys iddynt;

ystyr “buddiant cymwys” (“qualifying interest”) yw prif fuddiant mewn tir ac eithrio les am gyfnod o 21 mlynedd neu lai;

ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio).