DehongliLL+C
2Yn yr Atodlen hon—
- mae i “asedau bond”, “deiliad bond”, “dyroddwr bond” a “cyfalaf” yr ystyron a roddir i “bond assets”, “bond-holder”, “bond-issuer” a “capital” yn adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3); 
- ystyr “bond buddsoddi cyllid arall” (“alternative finance investment bond”) yw trefniadau y mae adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau o ran bondiau buddsoddi) yn gymwys iddynt; 
- ystyr “buddiant cymwys” (“qualifying interest”) yw prif fuddiant mewn tir ac eithrio les am gyfnod o 21 mlynedd neu lai; 
- ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru; 
- mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio). 
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(e)(i)
