ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 5ATODOL
Disodli ased
18
(1)
Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraff (2) neu (yn ôl y digwydd) (3)—
(a)
os bodlonir amodau 1 i 3 a 7 mewn perthynas â buddiant mewn tir (“y tir gwreiddiol”),
(b)
os yw B yn peidio â dal y tir gwreiddiol fel ased bond (ac yn unol â hynny, yn ei drosglwyddo i A) cyn terfyn y bond buddsoddi cyllid arall,
(c)
os yw A a B yn ymrwymo i drefniadau pellach sy’n bodloni amod 1 mewn perthynas â buddiant mewn tir arall (“y tir amnewid”), a
(d)
os yw gwerth y buddiant yn y tir amnewid ar yr adeg y mae A yn ei drosglwyddo i B yn fwy na gwerth marchnadol y buddiant yn y tir gwreiddiol ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol yn cael effaith, neu’n hafal â’r gwerth marchnadol hwnnw.
(2)
Mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, nid oes angen bodloni amod 6 os bodlonir amodau 1, 2, 3, 6 a 7 (fel y’u haddesir gan is-baragraff (3)) mewn perthynas â’r tir amnewid.
(3)
O ran y tir amnewid—
(a)
mae amod 5 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y buddiant mewn tir yn gyfeiriad at y buddiant yn y tir gwreiddiol, a
(b)
mae amod 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 12(b) at y trafodiad cyntaf yn gyfeiriad at y trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol.
(4)
Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fo—
(a)
B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a
(b)
amod 4 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.
(5)
Os nad yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fydd B yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i ACC bod—
(a)
amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a
(b)
pob un o amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.
(6)
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys pan fo’r tir amnewid yn cael ei ddisodli gan dir cyfnewid pellach; ac os digwydd hynny—
(a)
mae cyfeiriadau at y tir gwreiddiol (ac eithrio’r rheini yn is-baragraff (3)) i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid, a
(b)
mae cyfeiriadau at y tir amnewid i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir amnewid pellach.