ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL
RHAN 4RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL
Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer y trafodiad cyntaf
14
(1)
Mae rhyddhad o dan baragraff 13 wedi ei dynnu’n ôl—
(a)
os yw B yn trosglwyddo’r buddiant cymwys mewn tir i A heb fod amodau 5 na 6 wedi eu bodloni,
(b)
os daw’r cyfnod a grybwyllir ym mharagraff 12(b) (neu a ragnodir oddi tano) i ben a bod unrhyw un o’r amodau hynny heb ei fodloni, neu
(c)
os daw’n amlwg unrhyw bryd am unrhyw reswm arall na ellir bodloni unrhyw un o amodau 5 i 7 neu na chaiff ei fodloni.
(2)
Mae rhyddhad o dan baragraff 13 hefyd wedi ei dynnu’n ôl oni fodlonir amod 4.
(3)
Pan gaiff rhyddhad o dan baragraff 13 ei dynnu’n ôl, swm y dreth sydd i’w godi ar y trafodiad cyntaf yw’r dreth y byddid wedi ei chodi oni bai am y rhyddhad pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad wedi bod yn werth marchnadol y buddiant cymwys ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.