ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 4RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL

Rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf

13

(1)

Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir pob un o amodau 1 i 3 cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith.

(2)

Pan fo’r buddiant cymwys mewn tir yn cael ei ddisodli fel yr ased bond gan fuddiant mewn tir arall, mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 18 (disodli ased).

(3)

Mae is-baragraff (1) hefyd yn ddarostyngedig i baragraff 17 (nid yw rhyddhad ar gael pan fo deiliad bond yn caffael rheolaeth dros ased sylfaenol).