ATODLEN 11RHYDDHAD BONDIAU BUDDSODDI CYLLID ARALL

RHAN 1RHAGARWEINIAD

Trosolwg

1

(1)

Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â bondiau buddsoddi cyllid arall.

(2)

Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)

mae’r Rhan hon yn cynnwys diffiniadau o dermau allweddol (paragraff 2);

(b)

mae Rhan 2 yn darparu nad yw digwyddiadau penodol sy’n ymwneud â bond buddsoddi cyllid arall i’w trin fel trafodiadau trethadwy (paragraff 3) ac yn darparu ar gyfer eithriadau i hynny (paragraff 4);

(c)

mae Rhan 3 yn nodi’r amodau cyffredinol sy’n gymwys i weithrediad y darpariaethau rhyddhad yn Rhan 4;

(d)

mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol (paragraffau 13 a 15) yn ogystal â gwneud darpariaeth ynghylch tynnu rhyddhad yn ôl (paragraff 14) ac amgylchiadau pan na fo rhyddhad ar gael (paragraff 17);

(e)

mae Rhan 5 yn nodi sut i gymhwyso’r darpariaethau rhyddhad mewn achosion pan fo’r ased sylfaenol yn cael ei ddisodli gan ased arall (paragraff 18) ac yn gosod dyletswydd ar ACC i hysbysu’r Prif Gofrestrydd Tir pan gaiff pridiant tir a gofrestrir o dan yr Atodlen hon ei gollwng (paragraff 19).