xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 10LL+CRHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU PAN NA FO TREFNIADAU WEDI EU RHYDDHAU

Dim rhyddhad pan fo rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntafLL+C

5Nid yw paragraffau 2 na 3 yn gymwys i drefniadau y mae rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar eu cyfer ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson: trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros sefydliadLL+C

6(1)Nid yw paragraff 2 yn gymwys i drefniadau cyllid eraill os yw’r trefniadau hynny, neu unrhyw drefniadau cysylltiedig, yn cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

(2)Mae hynny’n cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol dim ond os bodlonir un neu ragor o amodau (megis digwyddiad neu gyflawni gweithred).

(3)Yn y paragraff hwn—

(4)Mae adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn gymwys at ddibenion penderfynu pwy sydd â rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3