2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—
(a)y sefydliad yn prynu prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig o brif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”),
(b)os yw’r buddiant a brynir yn gyfran anrhanedig, y prif fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y sefydliad a P fel tenantiaid ar y cyd llesiannol,
(c)y sefydliad (neu’r person sy’n dal y tir ar ymddiriedolaeth fel y crybwyllir ym mharagraff (b)) yn rhoi les i P allan o’r prif fuddiant (os yw’r prif fuddiant yn rhydd-ddaliad) neu is-les (os yw’r prif fuddiant yn lesddaliad) (“yr ail drafodiad”), a
(d)y sefydliad a P yn ymrwymo i gytundeb y mae gan P hawl oddi tano i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliad neu i’w olynydd yn y teitl drosglwyddo i P (mewn un trafodiad neu mewn cyfres o drafodiadau) yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf.
(2)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os P yw’r gwerthwr, neu
(b)os sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.
(3)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf (gan gynnwys unrhyw ofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf).
(4)Mae trosglwyddiad i P sy’n deillio o arfer yr hawl a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) (“trafodiad pellach”) wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad, a
(b)os, ar bob adeg rhwng yr ail drafodiad a’r trafodiad pellach—
(i)delir y buddiant a brynwyd o dan y trafodiad cyntaf gan sefydliad ariannol i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol, a
(ii)delir y les neu’r is-les a roddir o dan yr ail drafodiad gan P.
(5)Nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) i’w drin—
(a)fel pe bai wedi ei gyflawni’n sylweddol oni bai bod yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf wedi ei drosglwyddo i P, a hyd hynny (ac felly nid yw adran 14(1) yn gymwys), neu
(b)fel trafodiad tir ar wahân yn rhinwedd adran 15 (opsiynau a hawliau rhagbrynu).
(6)Nid yw trafodiad pellach sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd is-baragraff (4) yn drafodiad hysbysadwy oni bai ei fod yn ymwneud â throsglwyddo’r holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf i P, i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 10 para. 2 restricted (1.4.2018) by Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 5
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—
(a)y sefydliad—
(i)yn prynu prif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”), a
(ii)yn gwerthu’r buddiant hwnnw i P (“yr ail drafodiad”), a
(b)P yn rhoi morgais cyfreithiol (fel y diffinnir “legal mortgage” yn adran 205(1)(xvi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20)) i’r sefydliad dros y buddiant hwnnw.
(2)Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os—
(a)P yw’r gwerthwr, neu
(b)sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau eraill o’r math a grybwyllir ym mharagraff 2(1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.
(3)Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r sefydliad ariannol yn cydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf, a phan fo hynny’n cynnwys gofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf, rhaid i’r dreth sydd i’w chodi fod yn seiliedig ar gydnabyddiaeth drethadwy nad yw’n llai na gwerth marchnadol y buddiant, ac yn achos rhoi les ar rent, y rhent marchnadol.
(4)At ddibenion is-baragraff (3), rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les fynd amdano ar y farchnad agored ar yr adeg honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I4Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
4Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 2 a 3 at P i’w darllen, mewn perthynas ag adegau ar ôl marwolaeth P, fel cyfeiriadau at gynrychiolwyr personol P.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3