xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 18/10/2017

Valid from 01/04/2018

ATODLEN 10LL+CRHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU PAN NA FO TREFNIADAU WEDI EU RHYDDHAU

Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson: trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros sefydliadLL+C

6(1)Nid yw paragraff 2 yn gymwys i drefniadau cyllid eraill os yw’r trefniadau hynny, neu unrhyw drefniadau cysylltiedig, yn cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

(2)Mae hynny’n cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol dim ond os bodlonir un neu ragor o amodau (megis digwyddiad neu gyflawni gweithred).

(3)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “sefydliad ariannol perthnasol” (“relevant financial institution”) yw’r sefydliad ariannol sy’n ymrwymo i’r trefniadau cyllid eraill;

  • ystyr “trefniadau cyllid eraill” (“alternative finance arrangements”) yw’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1);

  • ystyr “trefniadau cysylltiedig” (“connected arrangements”) yw unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt mewn cysylltiad â gwneud trefniadau cyllid eraill (gan gynnwys trefniadau sy’n ymwneud ag un neu ragor o bersonau nad ydynt yn bartïon i’r trefniadau cyllid eraill).

(4)Mae adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn gymwys at ddibenion penderfynu pwy sydd â rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)