ATODLEN 10RHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL
RHAN 2Y RHYDDHADAU
Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson
2
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—
(a)
y sefydliad yn prynu prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig o brif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”),
(b)
os yw’r buddiant a brynir yn gyfran anrhanedig, y prif fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y sefydliad a P fel tenantiaid ar y cyd llesiannol,
(c)
y sefydliad (neu’r person sy’n dal y tir ar ymddiriedolaeth fel y crybwyllir ym mharagraff (b)) yn rhoi les i P allan o’r prif fuddiant (os yw’r prif fuddiant yn rhydd-ddaliad) neu is-les (os yw’r prif fuddiant yn lesddaliad) (“yr ail drafodiad”), a
(d)
y sefydliad a P yn ymrwymo i gytundeb y mae gan P hawl oddi tano i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliad neu i’w olynydd yn y teitl drosglwyddo i P (mewn un trafodiad neu mewn cyfres o drafodiadau) yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf.
(2)
Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)
os P yw’r gwerthwr, neu
(b)
os sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.
(3)
Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf (gan gynnwys unrhyw ofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf).
(4)
Mae trosglwyddiad i P sy’n deillio o arfer yr hawl a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) (“trafodiad pellach”) wedi ei ryddhau rhag treth—
(a)
os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad, a
(b)
os, ar bob adeg rhwng yr ail drafodiad a’r trafodiad pellach—
(i)
delir y buddiant a brynwyd o dan y trafodiad cyntaf gan sefydliad ariannol i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol, a
(ii)
delir y les neu’r is-les a roddir o dan yr ail drafodiad gan P.
(5)
Nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) i’w drin—
(a)
fel pe bai wedi ei gyflawni’n sylweddol oni bai bod yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf wedi ei drosglwyddo i P, a hyd hynny (ac felly nid yw adran 14(1) yn gymwys), neu
(b)
fel trafodiad tir ar wahân yn rhinwedd adran 15 (opsiynau a hawliau rhagbrynu).
(6)
Nid yw trafodiad pellach sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd is-baragraff (4) yn drafodiad hysbysadwy oni bai ei fod yn ymwneud â throsglwyddo’r holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf i P, i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol.