ATODLEN 10RHYDDHADAU CYLLID EIDDO ARALL

(a gyflwynir gan adran 30(1))

RHAN 1RHAGARWEINIAD

1Trosolwg

1

Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad yn achos trafodiadau tir penodol sy’n gysylltiedig â threfniadau cyllid eiddo arall.

2

Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

a

mae Rhan 2 yn nodi’r amgylchiadau pan fo trafodiadau penodol wedi eu rhyddhau rhag treth;

b

mae Rhan 3 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo rhyddhad ar gael;

c

mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth i fuddiant a ddelir gan sefydliad ariannol gael ei drin fel buddiant esempt mewn amgylchiadau penodol;

d

mae Rhan 5 yn diffinio termau penodol at ddibenion yr Atodlen hon.

RHAN 2Y RHYDDHADAU

2Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—

a

y sefydliad yn prynu prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig o brif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”),

b

os yw’r buddiant a brynir yn gyfran anrhanedig, y prif fuddiant yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer y sefydliad a P fel tenantiaid ar y cyd llesiannol,

c

y sefydliad (neu’r person sy’n dal y tir ar ymddiriedolaeth fel y crybwyllir ym mharagraff (b)) yn rhoi les i P allan o’r prif fuddiant (os yw’r prif fuddiant yn rhydd-ddaliad) neu is-les (os yw’r prif fuddiant yn lesddaliad) (“yr ail drafodiad”), a

d

y sefydliad a P yn ymrwymo i gytundeb y mae gan P hawl oddi tano i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliad neu i’w olynydd yn y teitl drosglwyddo i P (mewn un trafodiad neu mewn cyfres o drafodiadau) yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf.

2

Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os P yw’r gwerthwr, neu

b

os sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.

3

Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf (gan gynnwys unrhyw ofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf).

4

Mae trosglwyddiad i P sy’n deillio o arfer yr hawl a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) (“trafodiad pellach”) wedi ei ryddhau rhag treth—

a

os cydymffurfir â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad, a

b

os, ar bob adeg rhwng yr ail drafodiad a’r trafodiad pellach—

i

delir y buddiant a brynwyd o dan y trafodiad cyntaf gan sefydliad ariannol i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol, a

ii

delir y les neu’r is-les a roddir o dan yr ail drafodiad gan P.

5

Nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-baragraff (1)(d) i’w drin—

a

fel pe bai wedi ei gyflawni’n sylweddol oni bai bod yr holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf wedi ei drosglwyddo i P, a hyd hynny (ac felly nid yw adran 14(1) yn gymwys), neu

b

fel trafodiad tir ar wahân yn rhinwedd adran 15 (opsiynau a hawliau rhagbrynu).

6

Nid yw trafodiad pellach sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd is-baragraff (4) yn drafodiad hysbysadwy oni bai ei fod yn ymwneud â throsglwyddo’r holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf i P, i’r graddau nad yw wedi ei drosglwyddo drwy drafodiad pellach blaenorol.

3Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a ailwerthir i berson

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ymrwymir i drefniadau rhwng person (“P”) a sefydliad ariannol pan fo—

a

y sefydliad—

i

yn prynu prif fuddiant mewn tir (“y trafodiad cyntaf”), a

ii

yn gwerthu’r buddiant hwnnw i P (“yr ail drafodiad”), a

b

P yn rhoi morgais cyfreithiol (fel y diffinnir “legal mortgage” yn adran 205(1)(xvi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20)) i’r sefydliad dros y buddiant hwnnw.

2

Mae’r trafodiad cyntaf wedi ei ryddhau rhag treth os—

a

P yw’r gwerthwr, neu

b

sefydliad ariannol arall yw’r gwerthwr, a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau eraill o’r math a grybwyllir ym mharagraff 2(1) yr ymrwymwyd iddynt rhyngddo a P.

3

Mae’r ail drafodiad wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r sefydliad ariannol yn cydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf hon a DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf, a phan fo hynny’n cynnwys gofyniad i dalu’r dreth sydd i’w chodi ar y trafodiad cyntaf, rhaid i’r dreth sydd i’w chodi fod yn seiliedig ar gydnabyddiaeth drethadwy nad yw’n llai na gwerth marchnadol y buddiant, ac yn achos rhoi les ar rent, y rhent marchnadol.

4

At ddibenion is-baragraff (3), rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les fynd amdano ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

4Cyfeiriadau at P pan fo P yn unigolyn sydd wedi marw

Mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 2 a 3 at P i’w darllen, mewn perthynas ag adegau ar ôl marwolaeth P, fel cyfeiriadau at gynrychiolwyr personol P.

RHAN 3AMGYLCHIADAU PAN NA FO TREFNIADAU WEDI EU RHYDDHAU

5Dim rhyddhad pan fo rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntaf

Nid yw paragraffau 2 na 3 yn gymwys i drefniadau y mae rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar eu cyfer ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

6Tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson: trefniadau i drosglwyddo rheolaeth dros sefydliad

1

Nid yw paragraff 2 yn gymwys i drefniadau cyllid eraill os yw’r trefniadau hynny, neu unrhyw drefniadau cysylltiedig, yn cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

2

Mae hynny’n cynnwys trefniadau i berson gaffael rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol dim ond os bodlonir un neu ragor o amodau (megis digwyddiad neu gyflawni gweithred).

3

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “sefydliad ariannol perthnasol” (“relevant financial institution”) yw’r sefydliad ariannol sy’n ymrwymo i’r trefniadau cyllid eraill;

  • ystyr “trefniadau cyllid eraill” (“alternative finance arrangements”) yw’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1);

  • ystyr “trefniadau cysylltiedig” (“connected arrangements”) yw unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt mewn cysylltiad â gwneud trefniadau cyllid eraill (gan gynnwys trefniadau sy’n ymwneud ag un neu ragor o bersonau nad ydynt yn bartïon i’r trefniadau cyllid eraill).

4

Mae adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn gymwys at ddibenion penderfynu pwy sydd â rheolaeth dros y sefydliad ariannol perthnasol.

RHAN 4BUDDIANT ESEMPT

7Buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol yn fuddiant esempt

1

Mae buddiant a ddelir gan sefydliad ariannol o ganlyniad i’r trafodiad cyntaf o fewn ystyr paragraff 2(1)(a) yn fuddiant esempt (ond gweler yr hyn a ganlyn).

2

Mae’r buddiant yn peidio â bod yn fuddiant esempt—

a

os yw’r les a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) yn peidio â chael effaith, neu

b

os yw’r hawl o dan baragraff 2(1)(d) yn peidio â chael effaith neu’n dod yn ddarostyngedig i gyfyngiad.

3

Nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt os yw rhyddhad grŵp, rhyddhad caffael neu ryddhad atgyfansoddi ar gael ar y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os caiff rhyddhad o’r fath ei dynnu’n ôl wedi hynny).

4

Er gwaethaf is-baragraff (1), nid yw’r buddiant yn fuddiant esempt mewn cysylltiad ag—

a

y trafodiad cyntaf ei hun, neu

b

trafodiad pellach o fewn ystyr paragraff 2(4).

RHAN 5DEHONGLI

8Ystyr “sefydliad ariannol”

Yn yr Atodlen hon, ystyr “sefydliad ariannol” yw—

a

sefydliad ariannol o fewn ystyr “financial institution” yn adran 564B o Ddeddf Treth Incwm 2007 (p. 3) (trefniadau cyllid eraill: ystyr “sefydliad ariannol”) ac eithrio person y cyfeirir ato yn is-adran (1)(d) o’r adran honno (personau sydd â chaniatâd i ymrwymo i gytundebau credyd a chontractau ar gyfer llogi nwyddau);

b

person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) i gyflawni’r gweithgaredd a reoleiddir a bennir yn erthygl 63F(1) o Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (Gweithgareddau a Reoleiddir) 2001 (O.S. 2001/544) (ymrwymo i gynlluniau prynu cartrefi a reoleiddir fel darparwyr prynu cartrefi).

9Ystyr “trefniadau”

Yn yr Atodlen hon, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio).