I1I2ATODLEN 1TROSOLWG O’R ATODLENNI
Atod. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
I2Mae’r Atodlenni i’r Ddeddf hon wedi eu trefnu fel a ganlyn—
a
mae Atodlenni 2 i 4 yn grŵp o Atodlenni sy’n gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phrif gysyniadau’r dreth trafodiadau tir—
i
mae Atodlen 2 yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i drafodiadau cyn-gwblhau;
ii
mae Atodlen 3 yn pennu trafodiadau penodol sy’n esempt rhag codi’r dreth arnynt;
iii
mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch yr hyn sy’n cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir;
b
mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch;
c
mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i lesoedd;
d
mae Atodlenni 7 a 8 yn grŵp o Atodlenni sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i endidau penodol, sef partneriaethau (Atodlen 7) ac ymddiriedolaethau (Atodlen 8) yn benodol;
e
mae Atodlenni 9 i 22 yn grŵp o Atodlenni sy’n gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau sydd ar gael rhag y dreth;
f
mae Atodlen 23 yn gwneud diwygiadau i DCRhT.
Atod. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)