xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CFFURFLENNI TRETH A THALIADAU

PENNOD 1LL+CFFURFLENNI TRETH

Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen drethLL+C

44Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen drethLL+C

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir hysbysadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC.

(2)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)cynnwys hunanasesiad, os yw’r trafodiad yn drafodiad trethadwy.

(3)Yn y Ddeddf hon, ystyr “hunanasesiad” mewn perthynas â ffurflen dreth, yw asesiad o swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r trafodiad, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ffurflen dreth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trafodiadau hysbysadwyLL+C

45Trafodiadau hysbysadwyLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn hysbysadwy os yw—

(a)yn gaffaeliad prif fuddiant mewn tir (gweler adran 68) nad yw o fewn un o’r eithriadau a restrir yn adran 46,

(b)yn gaffaeliad buddiant trethadwy, ac eithrio prif fuddiant mewn tir—

(i)os nad yw’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, a

(ii)os yw treth i’w chodi ar gyfradd o fwy na 0%, neu y byddai treth i’w chodi felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30, mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad,

(c)yn drafodiad tir y trinnir person fel pe bai’n ymrwymo iddo yn rhinwedd adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti), neu

(d)yn drafodiad tir tybiannol neu’n drafodiad tir tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 2.

(2)Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo),

(b)paragraff 18(5) o Atodlen 4 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol),

(c)paragraff 44(1) o Atodlen 7 (trosglwyddo buddiant partneriaeth), a

(d)paragraff 2(6) o Atodlen 10 (cyllid eiddo arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4A. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

46Eithriadau ar gyfer caffaeliadau penodol prif fuddiannau mewn tirLL+C

(1)Mae’r eithriadau y cyfeirir atynt yn adran 45 fel a ganlyn.

(2)Trafodiad sy’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3.

(3)Caffaeliad ac eithrio rhoi, aseinio neu ildio les pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy, ynghyd â’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw drafodiadau cysylltiol, yn llai na £40,000.

(4)Rhoi les am gyfnod o lai na 7 mlynedd, pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.

(5)Aseinio neu ildio les—

(a)pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o lai na 7 mlynedd, a

(b)pan na fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio uwchlaw’r trothwy cyfradd sero.

(6)Rhoi les am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor pan fo—

(a)y gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent yn llai na £40,000, a

(b)y rhent perthnasol yn llai na £1,000.

(7)Aseinio neu ildio les—

(a)pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor, a

(b)pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseinio neu’r ildio yn llai na £40,000.

(8)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer caffaeliad uwchlaw’r trothwy cyfradd sero os yw’n cynnwys—

(a)unrhyw swm y mae treth i’w chodi arno ar gyfradd o fwy na 0%, neu

(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi arno felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30(2) neu (3).

(9)Yn is-adran (6), ystyr “rhent perthnasol” yw—

(a)y rhent blynyddol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 36(2) o Atodlen 6), neu

(b)yn achos rhoi les y mae paragraff 31 o Atodlen 7 yn gymwys iddi, y gyfran drethadwy berthnasol o’r rhent blynyddol (fel y’i cyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw).

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3), (6) neu (7) er mwyn rhoi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir yno am y tro.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6A. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

AddasiadauLL+C

47Digwyddiad dibynnol yn peidio neu ganfod cydnabyddiaeth: dyletswydd i ddychwelyd ffurflen drethLL+C

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth i ACC—

(a)os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,

(b)os ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (2), ac

(c)os effaith y digwyddiad yw—

(i)y daw’r trafodiad yn hysbysadwy,

(ii)bod treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(iii)bod treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad pan nad oedd unrhyw dreth yn daladwy.

(2)Y digwyddiadau yw—

(a)yn achos cydnabyddiaeth ddibynnol, ceir digwyddiad dibynnol neu daw’n eglur na fydd yn digwydd, neu

(b)yn achos cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod, caiff swm sy’n berthnasol i gyfrifo’r gydnabyddiaeth, neu unrhyw randaliad o gydnabyddiaeth, ei ganfod.

(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (2), a

(b)cynnwys hunanasesiad.

(4)Er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT (llog taliadau hwyr), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â swm—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd o dan yr adran hon fel y dreth sy’n daladwy,

(b)sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth o’r fath,

(c)sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad a wneir yn ychwanegol at ffurflen dreth o’r fath, neu

(d)sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad neu asesiad a wneir yn lle ffurflen dreth o’r fath,

yw’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf honno i’w darllen yn unol â hynny).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (4) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf⁠—

(a)rhent (gweler Atodlen 6);

(b)blwydd-dal y mae adran 21 yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8A. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

48Digwyddiad dibynnol yn peidio neu ganfod cydnabyddiaeth: ad-dalu trethLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i drafodiad tir—

(a)os yw adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad, neu i unrhyw drafodiad y mae’r trafodiad yn drafodiad cysylltiol mewn perthynas ag ef,

(b)os ceir digwyddiad a grybwyllir yn adran 47(2) (“y digwyddiad perthnasol”), ac

(c)os effaith y digwyddiad perthnasol yw bod llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â’r trafodiad na’r hyn y mae’r prynwr eisoes wedi ei dalu yn unol â’r ffurflen dreth a ddychwelwyd ar gyfer y trafodiad (“y ffurflen dreth trafodiadau tir”).

(2)Er mwyn cael ad-daliad o swm y dreth a ordalwyd, caiff y prynwr yn y trafodiad tir—

(a)o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth trafodiadau tir, ddiwygio’r ffurflen dreth yn unol â hynny (gweler adran 41 o DCRhT);

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw (os na ddiwygir y ffurflen dreth), wneud hawliad am ad-daliad o’r swm a ordalwyd yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-adran (3).

(3)O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-adran (2)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau

Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae adran 48(2)(b) o DTTT yn gymwys iddo gael ei wneud cyn yr olaf o’r canlynol—

(a)diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn berthnasol iddi, neu

(b)diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r digwyddiad perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 48(1)(b) o DTTT).

(4)Ond os rhoi neu aseinio les yw’r trafodiad (“y trafodiad perthnasol”), ni chaniateir gwneud unrhyw hawliad o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag ad-dalu (yn llwyr neu’n rhannol) unrhyw fenthyciad neu flaendal a gaiff ei drin yn rhinwedd paragraff 19 o Atodlen 6 fel cydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad perthnasol, neu

(b)mewn cysylltiad ag ad-dalu unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer y trafodiad perthnasol, mewn achos pan fo’r ad-daliad—

(i)yn cael ei wneud o dan drefniadau a wnaed mewn cysylltiad â’r trafodiad perthnasol, a

(ii)yn ddibynnol ar derfynu neu aseinio’r les neu ar roi buddiant trethadwy allan o’r les.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i’r graddau y mae’r gydnabyddiaeth ar ffurf rhent (gweler Atodlen 6);

(b)pan fo adran 21 (blwydd-daliadau) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10A. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

49Dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôlLL+C

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth bellach i ACC os tynnir rhyddhad yn ôl i unrhyw raddau o dan—

(a)Atodlen 11 (bondiau buddsoddi cyllid arall);

(b)Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol);

(c)Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);

(d)Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael);

(e)Atodlen 18 (rhyddhad elusennau).

(2)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

(3)Y digwyddiad datgymhwyso yw—

(a)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl o dan Atodlen 11, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 14 o’r Atodlen honno;

(b)mewn perthynas â thynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer caffaeliadau eiddo preswyl penodol o dan Atodlen 14, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 8(1), (3) neu (4) o’r Atodlen honno;

(c)mewn perthynas â thynnu rhyddhad grŵp yn ôl o dan Atodlen 16, y prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn ystyr yr Atodlen honno;

(d)mewn perthynas â thynnu rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael yn ôl o dan Atodlen 17, digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(2) neu 7(2) neu (3) o’r Atodlen honno;

(e)mewn perthynas â thynnu rhyddhad elusennau yn ôl o dan Atodlen 18; digwyddiad datgymhwyso fel y’i diffinnir ym mharagraff 2(4), 5(2) neu 8(2) o’r Atodlen honno.

(4)Er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT (llog taliadau hwyr), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â swm—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd o dan is-adran (1)(a) fel y dreth sy’n daladwy,

(b)sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad neu gywiriad i ffurflen dreth o’r fath,

(c)sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad a wneir yn ychwanegol at ffurflen dreth o’r fath, neu

(d)sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad neu asesiad a wneir yn lle ffurflen dreth o’r fath,

yw’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf honno i’w darllen yn unol â hynny).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (4) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12A. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

50Ffurflen dreth unigol mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol sy’n cael effaith ar yr un dyddiadLL+C

(1)Pan fo dau drafodiad cysylltiol neu ragor yn cael effaith ar yr un dyddiad caiff y prynwr, neu’r holl brynwyr os oes mwy nag un, ddychwelyd un ffurflen dreth fel pe bai’r holl drafodiadau hynny yn un trafodiad hysbysadwy.

(2)Pan fo dau brynwr neu ragor yn dychwelyd un ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol, mae adrannau 37 i 40 yn gymwys fel pe bai—

(a)y trafodiadau o dan sylw yn un trafodiad, a

(b)y prynwyr hynny yn brynwyr sy’n gweithredu ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14A. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

51Dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarachLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo effaith trafodiad sy’n gysylltiol o ran trafodiad cynharach (“y trafodiad diweddarach”) fel a ganlyn—

(a)daw’r trafodiad cynharach yn hysbysadwy,

(b)mae treth ychwanegol i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach, neu

(c)mae treth i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad cynharach pan nad oedd unrhyw dreth i’w chodi cyn hynny.

(2)Rhaid i’r prynwr yn y trafodiad cynharach ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw.

(3)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—

(a)cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith, a

(b)cynnwys hunanasesiad.

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ofyniad i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad diweddarach.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16A. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

52Pŵer i ddiwygio’r cyfnod pan fo rhaid dychwelyd ffurflenni trethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio darpariaeth a restrir yn is-adran (2) er mwyn rhoi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a bennir yno am y tro.

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 44(2)(a);

(b)adran 47(3)(a);

(c)adran 49(2)(a);

(d)adran 51(3)(a);

(e)paragraff 24(4)(a) o Atodlen 5;

(f)paragraff 3(4) o Atodlen 6;

(g)paragraff 5(5) o’r Atodlen honno;

(h)paragraff 13(1) o’r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18A. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

DatganiadauLL+C

53DatganiadLL+C

(1)Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan y Ddeddf hon gynnwys datganiad gan y prynwr fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y prynwr.

(2)Ond pan fo—

(a)y prynwr yn awdurdodi asiant i gwblhau’r ffurflen dreth,

(b)y prynwr yn gwneud datganiad bod yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen dreth, ac eithrio’r dyddiad perthnasol, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, ac

(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan yr asiant bod y dyddiad perthnasol a ddarperir ar y ffurflen dreth yn gywir hyd eithaf gwybodaeth yr asiant,

tybir bod y gofyniad yn is-adran (1) wedi ei fodloni.

(3)Y dyddiad perthnasol yw—

(a)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 47, dyddiad y digwyddiad y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad iddo,

(b)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 49, dyddiad y digwyddiad datgymhwyso,

(c)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan adran 51, y dyddiad y mae’r trafodiad diweddarach yn cael effaith,

(d)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan baragraff 24 o Atodlen 5, y dyddiad y daeth y cyfnod interim sy’n gymwys yn unol â pharagraff 9(5) neu 18(5) o’r Atodlen honno i ben, ac

(e)mewn perthynas â ffurflen dreth a ddychwelir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon, y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Nid oes dim yn is-adran (2) yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20A. 53 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

54Prynwr ag anabledd: datganiad gan y Cyfreithiwr SwyddogolLL+C

(1)Pan fo—

(a)prynwr mewn trafodiad tir yn anabl,

(b)y Cyfreithiwr Swyddogol yn gweithredu ar ran y prynwr hwnnw, ac

(c)y ffurflen dreth yn cynnwys datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol fod y ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf gwybodaeth y Cyfreithiwr Swyddogol,

tybir bod y gofyniad yn adran 53 wedi ei fodloni.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd y prynwr o dan y Ddeddf hon na DCRhT.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae person yn anabl os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(4)Yn yr adran hon, ystyr y “Cyfreithiwr Swyddogol” yw’r Cyfreithiwr Swyddogol i’r Uwchlysoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22A. 54 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

55Datganiad gan berson a awdurdodir i weithredu ar ran unigolynLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddatganiad a grybwyllir yn adran 53 bod ffurflen dreth yn gywir ac yn gyflawn.

(2)Pan fo’r prynwr yn unigolyn, caiff y gofyniad bod y prynwr yn gwneud datganiad o’r fath (ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw person a awdurdodir i weithredu ar ran yr unigolyn hwnnw mewn perthynas â’r materion y mae’r ffurflen dreth neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)At ddibenion yr adran hon nid ystyrir bod person (“P”) wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran unigolyn oni bai bod P wedi ei awdurdodi felly gan atwrneiaeth ysgrifenedig, a lofnodwyd gan yr unigolyn hwnnw.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo unigolyn yn gweithredu’n unol ag adran 33 (personau y mae cwmni yn gweithredu drwyddynt)—

(a)fel swyddog priodol cwmni, neu

(b)fel arall ar ran cwmni.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I24A. 55 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

PENNOD 2LL+CRHWYMEDIGAETH AR GYFER TRETH A THALU TRETH

Rhwymedigaeth ar gyfer trethLL+C

56Rhwymedigaeth ar gyfer trethLL+C

(1)Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad trethadwy dalu’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw ac felly mae’r dreth i’w chodi ar y prynwr at ddibenion DCRhT.

(2)O ran atebolrwydd prynwyr sy’n gweithredu ar y cyd, gweler—

(a)adrannau 37 i 40 (cydbrynwyr),

(b)Atodlen 7 (partneriaethau), ac

(c)Atodlen 8 (ymddiriedolaethau).

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I26A. 56 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Talu trethLL+C

57Talu trethLL+C

(1)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn dychwelyd ffurflen dreth, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy, neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy, yn ddim hwyrach na dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.

(2)Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn diwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw—

(a)os gwneir y diwygiad erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno, yn ddim hwyrach na’r dyddiad hwnnw, a

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, pan fydd y prynwr yn hysbysu ACC am y diwygiad.

(3)Ond gweler Pennod 3 (gohirio treth).

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I28A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

PENNOD 3LL+CGOHIRIO TRETH

58Ceisiadau gohirio mewn achosion o gydnabyddiaeth ddibynnol neu ansicrLL+C

(1)Caiff prynwr mewn trafodiad tir pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni yn ddibynnol neu’n ansicr (gweler adrannau 19 a 20) roi hysbysiad i ACC (“cais gohirio”) yn gofyn am ohirio talu swm o dreth sy’n daladwy a ddatgenir ar y ffurflen dreth gyntaf sy’n ymwneud â’r trafodiad (“y swm a geisir”).

(2)Ond ni chaiff y swm a geisir fod yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio (gweler adran 59).

(3)Rhaid i ACC gytuno i gais gohirio—

(a)os dychwelir y ffurflen dreth ac os gwneir y cais gohirio ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno neu cyn hynny,

(b)os yw’r cais—

(i)yn pennu’r swm y ceisir ei ohirio,

(ii)yn nodi sut y cyfrifwyd y swm a geisir yn unol ag adran 59 (gan gynnwys swm y gydnabyddiaeth sydd o fewn cam 2 o’r cyfrifiad hwnnw (“y gydnabyddiaeth ohiriedig”)),

(iii)yn nodi’r rhesymau pam fod y gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol neu’n ansicr a’r rhesymau pam y mae i’w dalu neu i’w ddarparu ar un neu ragor o ddyddiadau yn y dyfodol, y bydd neu y gall o leiaf un ohonynt fod fwy na 6 mis ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(iv)yn cynnig dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (gweler is-adran (8)), a

(v)yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall a all fod yn ofynnol yn rhinwedd adran 191 o DCRhT (rhoi hysbysiadau i ACC),

(c)os yw ACC yn fodlon nad yw’r swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio a gyfrifir yn unol ag adran 59, a

(d)os nad yw’r trafodiad tir yn drefniant osgoi trethi nac yn ffurfio rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.

(4)Fel arall rhaid i ACC wrthod cais gohirio (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).

(5)Ond os yw ACC o’r farn fod y swm a geisir yn fwy na’r swm y gellir ei ohirio caiff ganiatáu’r cais gohirio er hynny mewn perthynas â hynny o’r swm a geisir nad yw’n fwy na’r swm y gellir ei ohirio.

(6)Wrth gytuno i gais gohirio—

(a)rhaid i ACC bennu swm y dreth y mae’n cytuno i’w ohirio (y “swm gohiriedig”);

(b)rhaid i ACC bennu dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio (a gaiff fod yn wahanol i’r dyddiad terfyn disgwyliedig a gynigir gan y prynwr) (gweler is-adran (8));

(c)caiff ACC osod unrhyw amodau (gan gynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r prynwr dalu rhan o’r swm gohiriedig ar adegau penodedig yn ystod y cyfnod gohirio) ag y bo’n briodol ym marn ACC.

(7)Yn yr adran hon, mae i “trefniant osgoi trethi” yr un ystyr ag yn adran 31.

(8)Yn y Bennod hon—

(a)ystyr “cyfnod gohirio” yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y cyfeirir ati yn is-adran (1) ac sy’n dod i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

(i)y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu

(ii)y dyddiad y ceir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig;

(b)ystyr “dyddiad terfyn disgwyliedig”yw—

(i)y dyddiad y disgwylir digwyddiad a grybwyllir yn is-adran (9) mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ohiriedig, neu

(ii)os na ellir rhagfynegi’r dyddiad hwnnw, bum mlynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu, pan newidir y dyddiad terfyn disgwyliedig o dan adran 62, bum mlynedd i’r dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol).

(9)Y digwyddiadau yw—

(a)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol, dyddiad y digwyddiad dibynnol neu’r dyddiad y daw’n amlwg na fydd yn digwydd;

(b)pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ansicr, y dyddiad y canfyddir y gydnabyddiaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I30A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

59Cyfrifo’r swm y gellir ei ohirioLL+C

Mae’r swm y gellir ei ohirio mewn cysylltiad â thrafodiad tir y mae adran 58(1) yn gymwys iddo i’w gyfrifo fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I32A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

60Ceisiadau gohirio: hysbysiadau o benderfyniadau ACCLL+C

(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr sy’n pennu—

(a)y swm gohiriedig a’r swm a wrthodir (os o gwbl),

(b)dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio,

(c)unrhyw amod y mae ACC wedi ei osod o dan adran 58(6)(c), a

(d)os yw’r swm gohiriedig yn is na’r swm gohiriedig arfaethedig, y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn pennu’r rhesymau dros wrthod.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I34A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

61Ceisiadau gohirio: effaith penderfyniad ACCLL+C

(1)Pan fo ACC yn cytuno i gais gohirio—

(a)rhaid i’r prynwr dalu’r swm gohiriedig cyn diwedd y diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r cyfnod gohirio i ben (er gwaethaf adran 57), a

(b)er gwaethaf adran 157(3) o DCRhT, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm gohiriedig yw’r dyddiad ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm gohiriedig (ac mae Pennod 1 o Ran 6 o DCRhT i’w darllen yn unol â hynny).

(2)Pan fo ACC yn gwrthod cais gohirio (neu’n cytuno i gais ond yn cytuno i swm gohiriedig sy’n is na’r swm a geisir)—

(a)mae’n ofynnol talu swm y dreth y mae ACC wedi gwrthod ei ohirio (“y swm a wrthodir”) erbyn diwedd yr hwyraf o—

(i)y dyddiad y mae’r prynwr yn cael ei hysbysu am benderfyniad ACC, neu

(ii)y dyddiad y byddai’n ofynnol talu’r swm fel arall yn unol ag adran 57, a

(b)dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm a wrthodir yw’r hwyraf o—

(i)y diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol talu’r swm a wrthodir, neu

(ii)y dyddiad a fyddai’n cael ei bennu fel arall o dan adran 157(3) o DCRhT fel dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr mewn perthynas â’r swm hwnnw.

(3)Gweler adrannau 47 a 48 am ddarpariaeth ynghylch achosion pan fo swm y dreth sy’n daladwy yn newid o ganlyniad i—

(a)digwyddiad dibynnol neu ddiffyg digwyddiad dibynnol, neu

(b)canfod cydnabyddiaeth oedd heb ei chanfod.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I36A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

62Amrywio ceisiadau gohirioLL+C

(1)Pan fo ACC wedi cytuno i gais gohirio, caiff y prynwr roi hysbysiad i ACC yn gofyn am⁠—

(a)newid y dyddiad terfyn disgwyliedig;

(b)amrywio neu godi amod a orfodwyd o dan adran 58(6)(c).

(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu’r newid mewn amgylchiadau y cred y prynwr ei fod yn cyfiawnhau’r newid, neu’n cyfiawnhau amrywio neu godi’r amod.

(3)Os yw ACC o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff—

(a)cytuno i’r cais a wneir o dan is-adran (1), neu

(b)cytuno i—

(i)dyddiad terfyn disgwyliedig gwahanol i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(a);

(ii)amrywiad gwahanol i amod i’r hyn y gofynnwyd amdano o dan is-adran (1)(b).

(4)Pan fo ACC yn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau drosto.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I38A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

63Methu â chydymffurfio â chytundeb ACC i ohirioLL+C

(1)Os yw ACC o’r farn fod y prynwr—

(a)wedi methu cydymffurfio ag amod a osodwyd o dan adran 58(6)(c) neu a amrywiwyd o dan adran 62, neu

(b)mewn perthynas â’r cais gohirio neu gais a wnaed o dan adran 62(1)—

(i)wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu

(ii)wedi atal gwybodaeth,

mae’r cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud (ac mae adran 57 o’r Ddeddf hon ac adran 157 o DCRhT yn gymwys yn unol â hynny).

(2)Mewn achos o’r fath rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r prynwr yn datgan bod y cais gohirio i’w drin fel pe na bai erioed wedi ei wneud ac yn nodi canlyniadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I40A. 63 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

64Rheoliadau ynghylch gohirio trethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth i ohirio treth mewn achosion pan fo’r gydnabyddiaeth ohiriedig ar ffurf rhent (o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 6);

(b)gwneud darpariaeth sy’n cymhwyso’r Bennod hon (gydag unrhyw addasiadau a bennir yn y rheoliadau) i achosion pa fo’r gydnabyddiaeth y mae cais gohirio yn ymwneud â hi, neu unrhyw elfen o’r gydnabyddiaeth honno, ar ffurf—

(i)gwneud gwaith adeiladu, gwella neu atgyweirio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, neu

(ii)darparu gwasanaethau (ac eithrio cyflawni gwaith o’r faith);

(c)gwneud darpariaeth i ACC wneud amrywiadau o dan adran 62 heb i’r prynwr roi hysbysiad am gais o dan is-adran (1) o’r adran honno (boed drwy gytundeb gyda’r prynwr neu drwy orfodaeth).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud unrhyw addasiadau i’r Ddeddf hon ag y bo Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I42A. 64 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

PENNOD 4LL+CCOFRESTRU TRAFODIADAU TIR

65Cofrestru trafodiadau tirLL+C

(1)Ni chaiff y Prif Gofrestrydd Tir (“y Cofrestrydd”) gofrestru, gofnodi na dangos fel arall mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Cofrestrydd drafodiad tir hysbysadwy na dogfen sy’n rhoi effaith i drafodiad o’r fath neu sy’n dystiolaeth ohono oni bai y cyflwynir tystysgrif ACC gyda’r cais i gofrestru, i gofnodi neu i ddangos y trafodiad fel arall.

(2)Tystysgrif a ddyroddir gan ACC yw “tystysgrif ACC”, sy’n datgan bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(3)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r graddau—

(a)y mae’n ofynnol cofrestru, cofnodi neu ddangos fel arall y trafodiad tir hysbysadwy neu ddogfen sy’n rhoi effaith i’r trafodiad hwnnw neu sy’n dystiolaeth ohono mewn cofnod a wneir yn y gofrestr teitlau heb unrhyw gais i gofrestru;

(b)y mae’r cofnod yn cofrestru, yn cofnodi neu’n dangos fel arall fuddiant neu hawl ar wahân i’r buddiant trethadwy y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ei gaffael.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i gontract sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd—

(i)adran 10(4) (contract a throsglwyddo), neu

(ii)adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti);

(b)trafodiad tybiannol neu drafodiad tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir yn Atodlen 2;

(c)cytundeb ar gyfer les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 20(1) o Atodlen 6;

(d)amrywiad i les sydd i’w drin fel trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 24(1) neu 25(1) o’r Atodlen honno.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch tystysgrifau ACC.

(6)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (5), yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth o ran yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn dyroddi tystysgrif;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch dyroddi tystysgrifau dyblyg;

(c)darparu ar gyfer dyroddi tystysgrifau lluosog pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad.

(7)O ran y Cofrestrydd—

(a)rhaid iddo ganiatáu i ACC archwilio unrhyw dystysgrifau a gyflwynir o dan yr adran hon, a

(b)caiff ymrwymo i drefniadau ar gyfer rhoi gwybodaeth arall a chyfleusterau eraill i ACC er mwyn gwirio y cydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I44A. 65(1)-(4), (7)(a) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

I45A. 65(5)(6)(7)(b) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(h)