RhyddhadauLL+C
30RhyddhadauLL+C
(1)Mae’r Atodlenni a ganlyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhyddhadau a darpariaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhyddhadau hynny—
Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);
Atodlen 10 (rhyddhad cyllid eiddo arall);
Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall);
Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);
Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);
Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau);
Atodlen 15 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol);
Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);
Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael);
Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);
Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);
Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);
Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);
Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer trafodiadau tir penodol (ac felly os hawlir rhyddhad nid yw trafodiadau o’r fath yn drafodiadau trethadwy)—
paragraffau 18(2) a 19(2) o Atodlen 2 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau tybiannol y mae cyswllt rhyngddynt ag aseinio hawliau a rhyddhad ar gyfer iswerthiannau penodol);
paragraff 1 o Atodlen 9 (rhyddhad gwerthu ac adlesu);
paragraffau 2 a 3 o Atodlen 10 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau cyllid eiddo arall penodol);
paragraffau 13(1) a 15(1) o Atodlen 11 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â bondiau buddsoddi cyllid arall);
paragraff 1 o Atodlen 12 (rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig);
paragraffau 2(1), 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau anheddau penodol);
paragraff 4 o Atodlen 15 (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer rifersiynau penodol);
paragraff 6(2) o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);
paragraff 13 o’r Atodlen honno (rhyddhad ymddiriedolaeth ranberchnogaeth: trosglwyddo ar derfyniad);
paragraff 14 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: rhyddhad ar gyfer trafodiadau cynyddu perchentyaeth penodol);
paragraff 19(1) o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol gan ddarparwyr tai cymdeithasol);
paragraff 2(1) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp);
paragraff 2(1) o Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi);
paragraffau 3(1) a 5 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau);
paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 19 (rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored);
paragraffau 1(1) a 2 o Atodlen 20 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd);
paragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 21 (rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio);
Atodlen 22 (rhyddhadau amrywiol).
(3)Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon yn darparu rhyddhad i drafodiadau trethadwy penodol yn y modd a bennir yn y ddarpariaeth berthnasol—
paragraff 19(3) o Atodlen 2 (rhyddhad rhannol ar gyfer iswerthiannau penodol);
Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);
paragraffau 2(3), 3(4), 4(4), 5(3), 6(4) a 7(3) o Atodlen 14 (rhyddhad rhannol ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau sy’n fwy na’r arwynebedd a ganiateir);
paragraff 10 o’r Atodlen honno (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);
paragraff 2 o Atodlen 15 (rhyddhad sy’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ddibynnol yn achos [F1trafodiad sy’n destun disgownt sector cyhoeddus]);
paragraff 3 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);
paragraff 5 o’r Atodlen honno (lesoedd rhanberchnogaeth pan ganiateir cynyddu perchentyaeth: dewis i’r gydnabyddiaeth fod yn seiliedig ar werth ar y farchnad agored);
paragraff 12 o’r Atodlen honno (ymddiriedolaethau rhanberchnogaeth: dewis i gymryd mai’r gwerth marchnadol yw’r gydnabyddiaeth);
Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);
paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).
(4)Rhaid hawlio unrhyw ryddhad o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) (ac eithrio rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22 (rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol)) ar y ffurflen dreth gyntaf a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno.
(5)Mewn perthynas â rhyddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22—
(a)gellir ei hawlio ar y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad tir, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno, neu
(b)os na chaiff ei hawlio ar y ffurflen dreth neu’r ffurflen dreth ddiwygiedig a bod y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth wedi dod i ben, gellir ei hawlio drwy hawlio ad-daliad am unrhyw swm o dreth a ordalwyd (gweler Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT),
ac nid yw adran 78 o DCRhT (terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau) yn gymwys i hawliad am ryddhad o dan baragraff 3 o Atodlen 22.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau er mwyn—
(a)ychwanegu rhyddhad;
(b)addasu rhyddhad;
(c)dileu rhyddhad;
(d)addasu adran 31.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 30(3) wedi eu hamnewid (26.1.2019) gan Rheoliadau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Arbed) 2019 (O.S. 2019/110), rhlau. 1, 4(a) (ynghyd â rhl. 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 30(1) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/953, ergl. 2(d)
I3A. 30(1) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3
I4A. 30(2)-(6) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
31Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethiLL+C
(1)Nid yw rhyddhad ar gael o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 30 mewn cysylltiad â thrafodiad tir—
(a)sy’n drefniant osgoi trethi, neu
(b)sy’n rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.
(2)Mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi”—
(a)os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ymrwymo i’r trefniant, a
(b)os nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant ac eithrio cael mantais drethiannol.
(3)Yn yr adran hon—
ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—
(a)rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,
(b)ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,
(c)osgoi neu leihau swm y codir treth arno, neu
(d)gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth;
mae “trefniant” (“arrangement”) yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);
ystyr “treth” (“tax”) yw treth trafodiadau tir, treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I6A. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3