RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 4TRAFODIADAU TRETHADWY A CHYDNABYDDIAETH DRETHADWY

Cydnabyddiaeth drethadwy

I1I718Cydnabyddiaeth drethadwy

1

Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth o ran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad.

2

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag—

a

yr hyn sydd i gyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu

b

pennu swm y gydnabyddiaeth drethadwy.

I2I819Cydnabyddiaeth ddibynnol

1

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ddibynnol, mae swm neu werth y gydnabyddiaeth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar y rhagdybiaeth y bydd canlyniad y digwyddiad dibynnol yn golygu bod y gydnabyddiaeth yn daladwy neu, yn ôl y digwydd, nad yw’n peidio â bod yn daladwy.

2

Yn y Ddeddf hon, ystyr “dibynnol”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw—

a

nad yw i’w thalu neu i’w darparu oni cheir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol, neu

b

y peidir â’i thalu neu ei darparu os ceir rhyw ddigwyddiad ansicr yn y dyfodol.

I3I920Cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod

1

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, yn ansicr neu heb ei chanfod, mae ei swm neu ei gwerth i’w bennu at ddibenion y Ddeddf hon ar sail amcangyfrif rhesymol.

2

Yn y Ddeddf hon, ystyr “ansicr”, mewn perthynas â chydnabyddiaeth, yw bod ei swm neu ei gwerth yn dibynnu ar ddigwyddiadau ansicr yn y dyfodol.

I4I1021Blwydd-daliadau

1

Mae’r adran hon yn gymwys i hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd ar ffurf blwydd-dal sy’n daladwy—

a

am oes,

b

am byth,

c

am gyfnod amhenodol, neu

d

am gyfnod penodol sy’n hwy na 12 mlynedd.

2

Mae’r gydnabyddiaeth sydd i’w hystyried wedi ei chyfyngu i 12 mlynedd o daliadau blynyddol.

3

Pan fo’r swm sy’n daladwy yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, neu os gall amrywio felly, y 12 taliad blynyddol uchaf sydd i’w hystyried.

4

Rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu’r swm sy’n daladwy yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.

5

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at daliadau blynyddol yn gyfeiriadau at daliadau mewn cysylltiad â phob cyfnod olynol o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

6

At ddibenion yr adran hon, mae swm neu werth unrhyw daliad i’w bennu (os oes angen) yn unol ag adran 19 (cydnabyddiaeth ddibynnol) neu 20 (cydnabyddiaeth ansicr neu heb ei chanfod).

7

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at flwydd-dal yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth (ar wahân i rent) sydd i’w thalu neu i’w darparu’n gyfnodol; ac mae cyfeiriadau at daliad i’w darllen yn unol â hynny.

I5I1122Gwerth marchnadol tybiedig

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r prynwr yn gwmni ac—

a

y gwerthwr yn gysylltiedig â’r prynwr, neu

b

rhywfaint o’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, neu’r holl gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, ar ffurf dyroddi neu drosglwyddo cyfranddaliadau mewn cwmni y mae’r gwerthwr yn gysylltiedig ag ef.

2

Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw—

a

y swm a bennir o dan is-adran (3) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

b

os yw’n fwy na hynny, y swm a fyddai wedi bod yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad o anwybyddu’r adran hon.

3

Y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw—

a

gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

b

os rhoi les ar rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw.

4

Yn yr adran hon—

  • ystyr “cwmni” (“company”) yw unrhyw gorff corfforaethol;

  • mae “cyfranddaliadau” (“shares”) yn cynnwys stoc ac mae’r cyfeiriad at gyfranddaliadau mewn cwmni yn cynnwys cyfeiriad at warannau a ddyroddir gan gwmni.

5

Pan fo’r adran hon yn gymwys nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptio trafodiadau nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys.

6

Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

a

yr eithriadau a ddarperir yn adran 23, a

b

unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.

I6I1223Eithriadau

1

Nid yw adran 22 (gwerth marchnadol tybiedig) yn gymwys yn yr achosion a ganlyn.

2

Achos 1 yw pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr yng nghwrs busnes a gyflawnir ganddo sydd ar ffurf rheoli ymddiriedolaethau neu’n cynnwys hynny.

3

Achos 2 yw—

a

pan fo’r cwmni, yn union wedi’r trafodiad, yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr, a

b

pan fo’r gwerthwr yn gysylltiedig â’r cwmni oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) yn unig.

4

Achos 3 yw—

a

pan fo’r gwerthwr yn gwmni a’r trafodiad yn ddosbarthu asedau’r cwmni hwnnw (boed mewn cysylltiad â’i ddirwyn i ben ai peidio), neu’n rhan o hynny, a

b

o fewn y cyfnod o 3 blynedd yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, nad yw trafodiad yr hawliodd y gwerthwr ryddhad grŵp o dan Atodlen 16 ar ei gyfer wedi ymwneud ag—

i

testun y trafodiad, neu

ii

buddiant y mae’r buddiant hwnnw yn deillio ohono.

5

Yn yr adran hon, ystyr “y cwmni” yw’r cwmni sy’n brynwr mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw.