xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract ar gyfer trafodiad tir a bod y trafodiad oddi tano i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
(2)Nid ystyrir bod person yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract (ond gweler is-adran (4)).
(3)Os cwblheir y trafodiad heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol—
(a)caiff y contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau eu trin fel rhannau o un trafodiad tir, a
(b)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad cwblhau.
(4)Ond os yw’r contract wedi ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—
(a)caiff y contract ei drin fel pe bai’r contract y trafodiad y darperir ar ei gyfer yn y contract, a
(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.
(5)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei gwblhau wedi hynny drwy drosglwyddiad—
(a)mae’r contract a’r trafodiad sy’n cael effaith wrth ei gwblhau ill dau yn drafodiadau hysbysadwy at ddibenion y Ddeddf hon, a
(b)mae treth i’w chodi ar yr ail drafodiad i’r graddau (os o gwbl) y mae’r swm a grybwyllir yn is-adran (6) yn fwy na swm y dreth sydd i’w godi ar y contract.
(6)Y swm yw’r dreth y byddid wedi ei chodi ar yr ail drafodiad pe bai wedi ei gwblhau heb ei gyflawni’n sylweddol yn flaenorol.
(7)Pan fo is-adran (4) yn gymwys a bod y contract yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau) wedi hynny, neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).
(8)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn cysylltiad â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.
(9)Pan fo paragraff 20 o Atodlen 6 yn gymwys (cytundeb ar gyfer les), mae’n gymwys yn lle is-adrannau (4) i (8).
(10)Yn yr adran hon—
(a)mae cyfeiriadau at gwblhau yn gyfeiriadau at gwblhau’r trafodiad tir y bwriedir ei wneud, rhwng yr un partïon, ac sy’n cydymffurfio’n sylweddol â’r contract;
(b)mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 10 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 3
C2A. 10 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/126), rhlau. 1(2), 4
C3A. 10(5)(b) eithrio (dd.) (27.7.2020) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/794), rhlau. 1(2), 2(3) (ynghyd â rhl. 2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3