414.Mae’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir yr ymrwymir iddynt o dan amgylchiadau penodol.
415.Mae paragraffau 1 a 2 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â goleudai. Yn benodol, mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan y naill neu’r llall o’r amodau a ganlyn wedi ei ryddhau rhag treth trafodiadau tir:
trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rhoi effaith i Ran 8 (goleudai) o Ddeddf Llongau Masnach 1995; neu
trafodiad tir yr ymrwymir iddo drwy neu o dan gyfarwyddyd Trinity House at ddibenion cyflawni’r gwasanaethau y cyfeirir atynt yn adran 221(1) o’r Ddeddf Llongau Masnach.
416.Mae paragraff 3 yn nodi’r amgylchiadau y caniateir rhyddhad rhag treth trafodiadau tir oddi tanynt mewn perthynas â thrafodiadau tir sy’n ymwneud â lluoedd arfog sy’n ymweld neu bencadlysoedd milwrol rhyngwladol.
417.Mae paragraff 3 yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fo’r trafodiad tir yn ymwneud ag:
adeiladu neu ehangu barics neu wersylloedd ar gyfer llu arfog sy’n ymweld;
hwyluso hyfforddi llu arfog sy’n ymweld; neu
hybu iechyd neu effeithlonrwydd llu arfog sy’n ymweld.
418.Mae’r amodau uchod yn gymwys i unrhyw bencadlys milwrol rhyngwladol dynodedig fel pe bai’r pencadlys yn lu arfog gwlad ddynodedig sy’n ymweld; a bod aelodau’r llu arfog hwnnw yn bersonau sy’n gwasanaethu yn y pencadlys, neu’n gysylltiedig ag ef, sy’n aelodau o luoedd arfog gwlad ddynodedig.
419.Mae paragraff 6 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiad tir sy’n ymwneud â throsglwyddo tir neu eiddo a dderbynnir i dalu treth o dan adran 9 o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1980 (gwaredu eiddo a dderbynnir gan Gomisiynwyr). Rhaid i’r trafodiad tir yn y sefyllfa hon drosglwyddo’r buddiant trethadwy i berson a enwebir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru (adran 9(4) o’r Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol) neu sefydliad neu gorff a ddiffinnir yn adran 9(2) o’r Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol fel:
unrhyw amgueddfa, unrhyw oriel gelf, unrhyw lyfrgell neu unrhyw sefydliad tebyg arall sydd â’r diben o gadw casgliad o ddiddordeb hanesyddol, artistig neu wyddonol er budd y cyhoedd;
unrhyw gorff sydd â’r diben o ddarparu, gwella neu gadw amwynderau a fwynheir gan y cyhoedd neu sydd i’w mwynhau gan y cyhoedd, neu gaffael tir i’w ddefnyddio gan y cyhoedd; ac
unrhyw gorff y mae cadwraeth natur yn un o’i ddibenion.
420.Mae trafodiad tir pan fo Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn barti iddo wedi ei ryddhau rhag treth trafodiadau tir os yw’n ymwneud â phriffordd neu briffordd arfaethedig sy’n gefnffordd neu a fydd yn gefnffordd, ac y byddai’n ofynnol i Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol dalu treth trafodiadau tir fel cost a dynnwyd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Yn y Rhan hon, mae i “priffordd”, “priffordd arfaethedig” a “cefnffordd” yr ystyron a roddir i “highway”, “proposed highway” a “trunk road” yn adrannau 328 a 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980.
421.Mae paragraff 8 yn darparu bod trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth trafodiadau tir pan fo’r prynwr yn un neu ragor o’r canlynol:
Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig;
Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol; neu
Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Astudiaethau Natur.
422.Mae paragraff 9 o’r Atodlen hon yn gymwys pan wneir Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 (gorchmynion sy’n pennu etholaethau seneddol newydd). Pan ymrwymir i drafodiad tir o ganlyniad i Orchymyn o’r fath, mae’r trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth trafodiadau tir pan fo’r gwerthwr yn gymdeithas etholaeth leol sy’n bodoli eisoes a phan fo’r prynwr naill ai:
yn gymdeithas newydd a ffurfir i olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes; neu
yn gorff perthynol i’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes sydd am drosglwyddo’r buddiant neu’r hawl, cyn gynted â phosibl, i gymdeithas newydd sy’n olynu’r gymdeithas sy’n bodoli eisoes.
423.Yn yr olaf o’r achosion hynny, bydd y ddau drafodiad tir wedi eu rhyddhau rhag treth trafodiadau tir.
424.At ddibenion paragraff 9, darperir dehongliad o’r termau allweddol a’u hystyron ym mharagraff 9(3) a (4).
425.Mae trafodiadau tir wedi eu rhyddhau rhag treth trafodiadau tir pan fônt yn digwydd mewn cysylltiad â chyfuno dwy gymdeithas adeiladu neu ragor o dan adran 93 o Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu 1986; neu pan fônt yn ymwneud â throsglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau adeiladu o dan adran 94 o’r Ddeddf honno.
426.Mae’r darpariaethau ym mharagraff 11 yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â chymdeithasau cyfeillgar. Y trafodiadau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad o dan y paragraff hwn yw’r rheini y rhoddir effaith iddynt gan, neu o ganlyniad i:
trosglwyddo ymrwymiadau neu gyfuno dwy gymdeithas gofrestredig neu ragor o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974;
cyfuno dwy gymdeithas gyfeillgar neu ragor o dan adran 85 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992;
trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar o dan adran 86 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992; neu
trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar yn unol â chyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod priodol o dan adran 90 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992.
427.Mae’r darpariaethau ym mharagraff 12 yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fo trafodiad tir yn digwydd mewn cysylltiad â:
trosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau cofrestredig yn unol ag adran 110 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (“Deddf 2014”); neu
trosi cymdeithas gofrestredig yn gwmni neu gyfuno cymdeithas gofrestredig a chwmni, neu drosglwyddo holl ymrwymiadau’r gymdeithas gofrestredig i gwmni, yn unol ag adran 112 o DDeddf 2014.