391.Mae paragraff 6 o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad rhannol i gydbrynwyr:
pan geir dau brynwr neu ragor o dan drafodiad tir;
pan fo’r prynwyr yn caffael y tir fel tenantiaid ar y cyd;
pan fo o leiaf un o’r prynwyr yn elusen gymwys a bod o leiaf un o’r prynwyr eraill yn berson arall nad yw’n elusen gymwys; a
pan na fo’r prynwr yn ymrwymo i’r trafodiad i osgoi talu’r dreth trafodiadau tir.
392.Cyfrifir rhyddhad rhannol drwy ostwng y dreth sy’n ddyledus ar y trafodiad yn ôl swm y rhyddhad a ddarperir o dan is-baragraff (3). Mae hyn yn datgan bod y rhyddhad sydd ar gael yn gyfwerth â’r “gyfran berthnasol” o’r dreth y byddid wedi ei chodi ar y trafodiad fel arall.
393.Ystyr y gyfran berthnasol yw’r isaf o gyfran testun y trafodiad a gaffaelir gan yr holl elusennau cymwys (P1); a’r gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddir gan yr elusennau cymwys (P2).