Elusen nad yw’n elusen gymwys
389.Mae paragraff 5 yn gwneud darpariaeth i ryddhad elusennau fod ar gael pan fo elusen (“E”) yn brynwr ond nid yn elusen gymwys ond yn bwriadu dal y rhan fwyaf o’i chyfran o destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys o hyd. Yn y sefyllfa hon mae E yn gymwys i gael rhyddhad elusennau, ac mae’r rheolau sy’n ymwneud â digwyddiadau datgymhwyso (paragraff 4) yn gymwys fel yr amlinellwyd eisoes (yn ddarostyngedig i’r addasiadau ym mharagraff 5(4)) ond mae hynny’n cynnwys y gellir tynnu’r rhyddhad yn ôl yn llwyr neu’n rhannol os yw-
E yn trosglwyddo prif fuddiant yn nhestun cyfan y trafodiad a ryddheir neu ran ohono; neu
E yn rhoi les rhent isel am bremiwm am resymau eraill ac eithrio dibenion elusennol E.
390.Yn yr Atodlen hon, rhoddir les am bremiwm os oes cydnabyddiaeth ac eithrio rhent ac mae les yn les “rhent isel” os yw’r rhent blynyddol yn llai na £1000 y flwyddyn.