Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 3 – Cyfrifo Treth a Rhyddhadau

Adrannau 30–31 - Rhyddhadau

44.Mae adran 30 yn cyflwyno Atodlenni 9 - 22 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch rhyddhadau y gellir eu hawlio mewn perthynas â thrafodiadau penodol y codir treth trafodiadau tir arnynt fel arfer. Rhennir yr adran yn rhyddhadau sy’n darparu rhyddhad o 100% rhag codi treth trafodiadau tir a’r rheini y darperir rhyddhad rhannol ar eu cyfer neu y darperir rhyddhad drwy gyfrifo treth trafodiadau tir mewn ffordd wahanol neu ar gyfradd wahanol i’r hyn sy’n gymwys fel arfer. Nid yw rhyddhadau yn cael eu cymhwyso’n awtomatig, ond rhaid eu hawlio drwy ddychwelyd ffurflen dreth neu ddiwygio ffurflen o’r fath. Caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu, ddiwygio neu ddileu rhyddhadau drwy reoliadau a chânt hefyd addasu adran 31.

45.Mae adran 31 yn darparu rheol gwrthweithio osgoi trethi wedi ei thargedu sy’n gymwys i bob hawliad gan brynwr am ryddhad. Gweithreda’r rheol fel na chaiff prynwr hawlio rhyddhad pan fo’r trafodiad yn “drefniant osgoi trethi”, neu’n rhan o drefniant o’r fath. Diffinnir osgoi trethi fel trefniant pan fo cael “mantais drethiannol” i unrhyw berson yn brif ddiben neu’n un o brif ddibenion y trefniant, ac nad oes prif bwrpas economaidd na masnachol dilys i’r trefniant (ar wahân i sicrhau mantais drethiannol).

46.Yn is-adran (3) diffinnir bod “trefniadau” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid neu unrhyw gyfres o drefniadau o’r fath. Mae is-adran (3) hefyd yn diffinio “mantais drethiannol” er mwyn cynnwys (ymysg pethau eraill) sefyllfaoedd pan fo person yn cael mantais ariannol drwy hawlio rhyddhad. Y bwriad yw y bydd hyn yn gymwys mewn achosion pan gaiff rhyddhad ei hawlio pan nad yw’n fwriad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bod rhyddhad yn cael ei roi. Felly, mewn sefyllfaoedd pan fo trafodiad wedi ei strwythuro mewn modd sy’n cydymffurfio â’r arfer cyfredol cyffredinol, a’r prynwr yn hawlio rhyddhad fel a fwriadwyd, ni fydd yr hawliad hwnnw yn dod o fewn cwmpas y rheol gwrthweithio osgoi trethi. Fodd bynnag, pan ymrwymir i gamau neu drefniadau ychwanegol yn unig er mwyn creu sefyllfa lle bodlonir yr amodau ar gyfer hawlio rhyddhad, bydd yr hawliad yn dod o fewn cwmpas y darpariaethau hyn ac ni ddylid ei wneud. Yn y pen draw, bydd pa un a oes gan drefniant brif bwrpas economaidd neu fasnachol dilys ai peidio yn dibynnu ar ffeithiau’r trafodiad. Fodd bynnag, ni ddylai’r rheol atal elusen rhag hawlio rhyddhad pan fo’n caffael eiddo at ddibenion elusennol (er enghraifft, cartrefu pobl yn unol ag amcanion elusennol yr elusen). Er nad oes diben masnachol i’r caffaeliad o anghenraid, mae diben economaidd iddo gan fod yr elusen wedi cyfnewid arian am ased ffisegol - yr eiddo - er mwyn hybu ei ddibenion elusennol.

47.Mae “treth” at ddibenion yr adran hon yn ehangach na threth trafodiadau tir yn unig, ac mae’n cynnwys rhai trethi a godir ar lefel y DU yn ogystal (e.e. treth gorfforaeth). Mae hyn yn sicrhau, pan ymrwymir i drafodiad tir Cymreig (y byddai rhyddhad yn cael ei ganiatáu ar ei gyfer fel arall), na ellir hawlio rhyddhad rhag treth trafodiadau tir os yw’r trafodiad tir yn rhan o drefniadau i osgoi’r dreth arall honno, neu’r trethi eraill hynny. Nid yw gwahardd yr hawliad am ryddhad rhag treth trafodiadau tir o dan yr amgylchiadau hyn yn rhagfarnu unrhyw gamau y gallai Cyllid a Thollau EM eu cymryd i adennill y dreth nad yw wedi ei datganoli a osgowyd.

48.Rhoddir y pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon (fel rhan o’r pwerau a ddarperir gan adran 30(6)) er mwyn newid gweithrediad a chwmpas y rheol gwrthweithio osgoi trethi.