Rhagarweiniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 4 Ebrill 2017 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2017. Fe’u lluniwyd gan Adran y Prif Weinidog a Swyddfa’r Cabinet yn Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.
2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Os yw ystyr adran neu ran o adran o’r Ddeddf yn eglur ac yr ymddengys nad oes angen rhoi esboniad neu sylw pellach arni, nis rhoddir.
3.Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud y Ddeddf hon yn rhinwedd y darpariaethau a gynhwysir yn Rhannau 4 a 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 16A o Atodlen 7 iddi. Mae’r darpariaethau hyn yn rhoi’r cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas â threthi datganoledig (a ddiffinnir fel trethi a bennir yn Rhan 4A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).